Ronnie O'Sullivan yn tynnu allan o Bencampwriaeth Agored Snwcer Cymru o achos gorbryder
Mae Ronnie O'Sullivan wedi cyhoeddi ei fod wedi tynnu allan o Bencampwriaeth Agored Snwcer Cymru yn Llandudno yr wythnos nesaf o achos gorbryder.
Mae O'Sullivan wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd saith gwaith ac mae yn rhif un ar restr detholion y byd.
Mae'r bencampwriaeth Gymreig yn dechrau yn Llandudno ddydd Llun.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn dywedodd Ronnie O'Sullivan nad oedd am fod yn cystadlu yn Llandudno am resymau iechyd.
"Mae'n anodd ei esbonio ond am flynyddoedd rwyf wedi bod yn dioddef o ddychryn cyhoeddus (stage fright) ar gyfnodau, sy'n deillio o orbryder.
"Nid yw'n rhywbeth y gallaf ei ragweld na'i reoli ond rwyf yn ceisio ei reoli y gorau y medra i.
"Rwy'n ymddiheuro i bawb sydd wedi prynu tocynnau ond nid ydw i'n gallu tynnu fy nghiw allan pan rydw i'n teimlo fel hyn ac rwy'n credu mai dyma'r peth gorau i mi ar hyn o bryd."
Ychwanegodd y byddai'n gobeithio mynd i Landudno ar gyfer yr wythnos, er mwyn gwneud gwaith i'r cyfryngau.
Inline Tweet: https://twitter.com/ronnieo147/status/1756269249415299370?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet