Newyddion S4C

Babi o Rydaman gafodd ei eni'n pwyso ychydig dros bwys yn dathlu ei benblwydd cyntaf

10/02/2024
babi rhydaman

Mae babi o Sir Gâr gafodd ei eni dri mis yn gynnar ac oedd yn pwyso ychydig dros bwys wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf.

Roedd Rohan Morris o Rydaman yn pwyso 1 pwys ag 8 owns – tua 860g – pan gafodd ei eni ar Ionawr 22 y llynedd.

Nid oedd disgwyl iddo gael ei eni tan fis Ebrill ond bu'n rhaid iddo gael ei eni drwy lawdriniaeth cesaraidd brys yn Ysbyty Singleton yn Abertawe pan ddechreuodd ei fam, Jade Morris, esgor.

Torrodd ei dŵr wedi dim ond 23 wythnos - tua 17 wythnos yn gynnar - ar Nos Galan 2022 a dywedodd y meddygon wrthi y gallai Rohan gael ei eni'n gynamserol.

“Roedd yna lawer o apwyntiadau yn ôl ac ymlaen dim ond i ddod o hyd i gynllun gweithredu a beth oedd yn mynd i ddigwydd,” meddai. “

Cefais wybod fy mod yn debygol o gael babi cynamserol ond efallai ddim, ac roeddem yn mynd i’w gymryd o ddydd i ddydd.

“Ces i fy anfon adref a’m rhoi i orffwys yn y gwely. Deffrais un bore ychydig wythnosau wedyn mewn poen a chefais fy rhuthro i Singleton.

“Penderfynodd y meddygon y byddai o fudd i mi a’r babi i'w eni.

“Roeddwn i'n eithaf ofnus oherwydd roeddwn i'n gynnar iawn, ond siaradodd yr ymgynghorydd â mi a'm gŵr trwy gydol y driniaeth.

“Roedd yn egluro pethau a’r nyrs hefyd. Dywedon nhw y byddai ychydig o ffws pan fyddai'r babi'n cael ei eni.

“Pan gyrhaeddodd, gwaeddodd Rohan, a roedd yn sioc - doeddwn i ddim yn disgwyl hynny.”

Arhosodd Rohan yn Ysbyty Singleton am saith wythnos cyn cael ei drosglwyddo i Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Arhosodd yno am bum wythnos arall cyn gallu gadael ym mis Ebrill ac ymuno â'i dad Nathan a'i frawd a chwaer fawr Noah ac Aneira, saith a thair oed, gartref.

“Mae wedi rhagori ar bob disgwyl,” meddai Ms Morris.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.