Newyddion S4C

Manylion treth y Prif Weinidog yn datgelu iddo dalu £500,000 y llynedd

Rishi Sunak (PA)

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi ei fanylion treth bersonol, sy’n dangos iddo dalu mwy na £500,000 mewn treth yn y DU.

Roedd cyfanswm ei incwm y llynedd yn £2.2 miliwn.

Cafodd y crynodeb o faterion ariannol y prif weinidog ei gyhoeddi brynhawn Gwener wrth i'r senedd fod ar doriad.

Mae’r ddogfen yn dangos iddo dalu bil treth o £508,308 ym mlwyddyn ariannol 2022-23 – tua £75,000 yn fwy na’r hyn a dalodd yn y flwyddyn flaenorol.

Gwnaeth Mr Sunak bron i £1.8 miliwn trwy enillion cyfalaf - swm sydd i fyny o £1.6 miliwn yn ystod 2021/22 - yn ogystal â £293,407 mewn llog ac enillion eraill.

Image
Treth Sunak

Credir mai'r prif weinidog yw un o'r ASau cyfoethocaf yn y senedd ac mae ei gyfoeth personol wedi cael ei ddefnyddio ers tro gan wrthwynebwyr i ymosod arno fel un sydd "allan o gysylltiad".

Mae gan Mr Sunak a'i wraig, Akshata Murty, merch i filiwnydd o India, gyfoeth amcangyfrifedig o tua £ 529 miliwn, yn ôl Rhestr Pobl Gyfoethog y Sunday Times yn 2023.

Yn hytrach na ffurflen dreth lawn, cyhoeddodd Rhif 10 “grynodeb” o incwm trethadwy Mr Sunak yn y DU, ei enillion cyfalaf a’r dreth a dalwyd dros y flwyddyn dreth ddiwethaf fel yr adroddwyd i Gyllid a Thollau EM.

Cyhoeddwyd crynodeb o’i gyfraniadau treth ar gyfer y flwyddyn 2021/22 fis Mawrth diwethaf hefyd, gan ddangos bod y prif weinidog wedi talu £432,493 mewn trethi'r flwyddyn honno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.