Israel yn cyhoeddi cynlluniau ymosodiad tir ar Gaza
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi cyhoeddi cynlluniau ei fyddin i ddechrau ymosodiad tir ar Gaza.
Mae wedi addo y bydd ymdrech filwrol i helpu dinasyddion Palestina, sy’n ceisio am loches yn ninas Rafah, i ffoi o’r ardal wrth i’r ymosodiad fynd rhagddo..
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd swyddfa Mr Netanyahu: "Mae'n amhosib cyflawni ein hamcan o drechu Hamas, wrth adael pedwar bataliwn Hamas ar ôl yn ninas Rafah.
“Ar y llaw arall, mae’n amlwg y byddai ymgyrch enfawr yn Rafah yn golygu y bydd rhaid i ni helpu dinasyddion i ffoi oddi wrth yr ymladd.
“Dyna pam mae’r Prif Weinidog wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i’r IDF a’r sefydliad amddiffyn i gyflwyno cynllun i’r cabinet er mwyn galluogi trigolion i ffoi."
Mae oddeutu 1.4 miliwn o ddinasyddion Palestina yn ceisio am loches yn ninas Rafah, ac mae Unicef wedi amcangyfrif bod oddeutu 600,000 o’r rheiny yn blant.
Mae nifer ohonynt eisoes wedi ffoi o’r ddinas yn ne Gaza tuag at y gogledd.
Mae lluoedd milwrol Israel bellach wedi ymosod ar ysbyty Al Amal yn Khan Younis, meddai cymdeithas Palestina Red Crescent.
“Rydym yn pryderu am les a diogelwch ein tîm y tu fewn i ysbyty Al Amal, yn ogystal â chleifion sydd wedi’u hanafu,” meddai ar neges a chyhoeddodd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi rhybuddio na fyddan nhw’n cefnogi ymosodiad yn ninas Rafah, gan ddweud y byddai ymgyrch o’r fath yn “drychineb.”