Teyrnged i fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr M4
Mae teyrngedau wedi’i rhoi i fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad ar draffordd yr M4.
Bu farw Victoria Jones, 53 oed o ardal Mount Pleasant o Abertawe, wedi gwrthdrawiad ger cyffyrdd 42 a 43 am oddeutu 15.10 ar ddydd Gwener 26 Ionawr.
Mae teulu Ms Jones bellach wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud y bydd colled enfawr ar ei hôl.
“Roedd Victoria yn un oedd yn hoff iawn o gymdeithasu.
“Roedd hi wastad yn gwenu ac yn hapus, ac roedd hi wrth ei bodd yn mynd allan gyda chwmni ei theulu a’i ffrindiau.
“Roedd hi’n arbennig o hapus pan oedd hi’n fmarchogaeth neu’n nofio,” meddai ei theulu.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw lygad-dystion oedd yn bresennol adeg y gwrthdrawiad.
Mae’r llu hefyd wedi cadarnhau bod pedwar cerbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys Suzuki S-Cross lliw arian, fan Vauxhall Vivaro lliw gwyn, fan Vauxhalll Combo a fan Toyota Proace, oedd hefyd yn faniau gwyn.
Mae angen i unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth, neu’r rheiny sydd â delweddau dash-cam, i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400030177.