Arestio dyn 39 oed wedi cyrch cyffuriau mewn tŷ yn Ynys Môn
09/02/2024
Mae dyn 39 oed wedi ei arestio yn dilyn gwarant cyffuriau mewn eiddo ar Sgwâr Trearddur yng Nghaergybi.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o fod hefo Cyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant a gwyngalchu arian yn anghyfreithlon.
Mae eisoes wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ddydd Mercher tra bod ymchwiliad pellach yr heddlu yn parhau.
Cafwyd hyd i arian parod a’r hyn y mae'r heddlu'n ei gredu oedd yn gyffuriau Dosbarth A yn ystod y cyrch.
Mewn datganiad dydwedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae cyflenwi cyffuriau yn cael effaith negyddol ar gymunedau a gall arwain at droseddu lleol, ac niweidio a chamfanteisio ar bobl bregus.
"Ni wnawn oddef cyffuriau yn ein cymunedau ni ac fe wnawn ni barhau gweithredu pan ‘da ni’n derbyn gwybodaeth."
Llun: Heddlu'r Gogledd