Newyddion S4C

Carcharu dyn am oes am lofruddio ei wraig mewn tân car yn Abertawe

09/02/2024
tancar

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei wraig mewn tân car yn y ddinas.

Fe fydd David Clarke, 80, yn treulio isafswm o 21 mlynedd ac wyth mis o dan glo. 

Ym mis Rhagfyr 2023, plediodd yn euog i lofruddio ei wraig, Helen Clarke, 77 oed. 

Bu farw Mrs Clarke yn Ysbyty Singleton, Abertawe, ddeuddydd ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Lôn Sgeti ger yr ysbyty ar ddydd Gwener 22 Medi.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw toc wedi 08.20 gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Roedd car Honda Jazz du ar dân yno.  

Yn ôl yr heddlu, cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty ond bu farw Helen Clarke rhai dyddiau yn ddiweddarach.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Raikes: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad heriol yn sgil ei natur a'i amgylchiadau.

"Hoffwn anfon ein cydymdeimladau i deulu Helen Clarke, a diolch iddynt am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn."

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Helen Clarke: "Roedd ein Mam yn fenyw gariadus, annwyl a dewr a oedd yn trysori ei theulu, ei ffrindiau a'r byd yn gyffredinol.

"Mae ei marwolaeth mewn amgylchiadau mor sydyn a thrasig wedi bod yn dorcalonnus; a does dim modd mesur ein galar. 

"Rydym wedi profi poen nad oes modd ei ddisgrifio ers iddi gael ei chymryd oddi wrthym - ac mae ein plant yn methu eu mam-gu, a oedd yn falch iawn ohonyn nhw.

"Rydym ni mor ddiolchgar am y cariad, y gofal a'r ystyriaeth gan ein teulu estynedig, ffrindiau a'r gymuned leol ac mae'n parhau i fod o gymorth yn ein cysuro."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.