Newyddion S4C

'Mae’n effeithio ar bob agwedd o dy fywyd': Galw am well ymwybyddiaeth o tinitws

ITV Cymru 11/02/2024
tinitws

Mae pobl sydd yn byw gyda thinitws yn galw am newid agweddau'r cyhoedd o’r cyflwr, gan "ei fod yn effeithio ar bob agwedd o’u bywydau".

Mae tinitws yn cael ei ddisgrifio fel teimlad o glywed sŵn pan nad oes yna sain allanol yn bodoli. Bydd rhywun sydd gyda thinitws efallai’n clywed canu, hisian, chwibanu neu synau eraill.

Yn ôl ymchwil diweddar, mae un o bob saith o bobl ar draws y DU yn dioddef o dinitws. Roedd 80% o gleifion yn cytuno bod y cyflwr wedi arwain atyn nhw’n cael teimladau o bryder neu hwyliau isel.

Mae tinitws yn gallu cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, gydag un mewn pump yn nodi meddyliau o hunan-niwed neu hunanladdiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Image
Emyr Williams
Mae Emyr Williams yn byw gyda'r cyflwr

Fe wnaeth Emyr Williams, o Nercwys yn Sir y Flint, siarad ag ITV Cymru Wales am yr effaith dyddiol o fyw gyda thinitws. 

“Oherwydd bod yna sŵn erchyll yn y cefndir drwy’r amser, mae’n gyflwr sydd yn cael effaith ar eich holl fywyd.

“Cyn y driniaeth, roeddwn i’n osgoi mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol fel cyngherddau gan fy mod i’n meddwl, ‘beth ydy’r pwynt os nad ydw i’n gallu mwynhau’r noson a siarad efo ffrindiau?’”

Yn dilyn derbyn diagnosis saith mlynedd yn ôl, mae Mr Williams nawr yn gwisgo cymorth clyw ac yn dweud ei fod yn “drawsnewidiol”.

Dywedodd Mr Williams ei bod hi’n “anodd i bobl ddychmygu” sut mae’n teimlo i fyw gyda thinitws gan ei fod yn gyflwr “anweledig”.

“Un o’r pethau mwyaf pwysig ydy codi ymwybyddiaeth bod pobl sydd yn byw hefo tinitws nid o reidrwydd efo unrhyw arwydd clir, fel cymorth clyw, i ddangos eu bod hefo’r cyflwr."

Codi ymwybyddiaeth

Mae awdiolegydd o Gaerdydd wedi codi pryderon am agweddau y cyhoedd a phobl yn y sector iechyd tuag at dinitws. 

Dywedodd Sonja Jones, sy’n awdiolegydd ar ran Tinnitus UK, elusen sydd yn cefnogi pobl sydd yn byw gyda’r cyflwr, fod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd yn cael eu heffeithio yn derbyn “triniaeth bwrpasol” i ddelio â’r trafferthion.

Fe wnaeth hi nodi hefyd “yn aml” iawn bod gweithwyr proffesiynol o fewn y maes iechyd yn dweud nad oedd unrhyw beth yn gallu cael ei wneud am y cyflwr.

“Mae’n bwysig iawn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol o fewn y maes iechyd yn derbyn yr hyfforddiant cywir a’u bod yn hapus i siarad gydag awdiolegwyr i ddysgu mwy.”

Mae pobl sydd yn byw gyda’r cyflwr yn gallu derbyn amrywiaeth o wahanol driniaethau yn dibynnu ar eu sefyllfa. Yn aml, bydd pobl sydd yn derbyn diagnosis yn cael cynnig therapi ymddygiad gwybyddol, ymarferion ymlacio, cyfoethogi sain neu mewn rhai achosion, cymorth clyw.

Wrth drafod natur “anweledig” y cyflwr, dywedodd Ms Jones: “Nid yw pobl byth yn mynd allan i gael MOT ar gyfer iechyd clustiau, yn yr un ffordd y bydden nhw am eu llygaid, oherwydd eu bod yn gallu llenwi bylchau mewn cyfathrebu gydag iaith corfforol.” 

Fel rhywun sydd wedi derbyn diagnosis o dinitws, fe wnaeth Ms Jones annog pobl sydd yn credu eu bod nhw’n dioddef o ganlyniad i dinitws gysylltu â’u meddyg, a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar wefan yr elusen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.