Newyddion S4C

Naw mlynedd o garchar i ddyn am dreisio merch 16 oed

09/02/2024
Passmore

Mae dyn wedi’i ddedfrydu i naw mlynedd o garchar ar ôl ei gael yn euog o geisio treisio merch o dan 16 oed, ymosod drwy dreiddio ac ymosodiad rhywiol.

Yn ogystal â chyfnod yn y carchar, bydd yn rhaid i Andrew Glyn Passmore, 41, o Hirwaun gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes; bod yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 15 mlynedd; ac mae gorchymyn atal 10 mlynedd wedi'i osod arno hefyd.

Wrth ymateb i'r ddedfryd ddydd Iau d ywedodd PC Natalie Cook o Heddlu'r De: “Hoffwn ganmol y dioddefwr am y cryfder y mae wedi’i ddangos yn ystod yr ymchwiliad hwn. 

"Rwy’n gobeithio, gyda Andrew Passmore bellach yn y carchar, y bydd hyn yn helpu rhywfaint o’r ffordd iddi symud ymlaen a dechrau ailadeiladu ei bywyd gan fod hyn wedi cael effaith sylweddol arni.

“I’r rhai sydd wedi dioddef troseddau rhywiol, gallwch fod yn sicr ein bod yn cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol o ddifrif. Byddwn yn eich credu; byddwn yn eich cefnogi a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwr o flaen ei well.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.