Newyddion S4C

Apêl wedi i gi gael ei ddarganfod mewn ardal tipio sbwriel ym Mhen-y-bont

09/02/2024
ci

Mae RSPCA Cymru wedi lansio apêl am wybodaeth ar ôl i gi bach gael ei daflu o'r neilltu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i’r ci Shih Tzu sydd tua 10 oed ar 24 Ionawr yn ardal Coytrahen - ardal sydd yn cael ei ddefnyddio i dipio sbwriel yn anghyfreithlon yn aml.

Cafwyd hyd iddi mewn gwrych a'i chludo i le diogel.

Fe wnaeth dderbyn triniaeth filfeddygol frys ac mae ymholiadau'n cael eu cynnal i gefndir y ci.

Dywedodd Arolygydd yr RSPCA Keith Hogben, sydd wedi bod yn ymchwilio i’r digwyddiad, ynghyd â’r Dirprwy Brif Arolygydd Gemma Cooper, fod y ci wedi’i ddarganfod ar dir sy’n adnabyddus am dipio anghyfreithlon.

“Hoffem ddiolch i’r sawl a ddaeth o hyd iddi, a oedd hefyd, yn ddealladwy, wedi ypsetio’n fawr o weld ei chyflwr.”

Dywedodd Keith fod y ci - sydd wedi cael ei enwi'n Patsy Pancake wedi profi wythnosau anodd.

“Cyn gynted ag y daeth i ofal yr RSPCA dechreuodd dderbyn y gofal milfeddygol yr oedd ei angen yn fawr,” meddai Keith.

“Mae’n destun pryder iddi fynd yn wael gyda sepsis, ond, mae hi bellach yn gwella’n dda. Mae hi bellach gyda gofalwr maeth ac wedi ymgartrefu’n dda yn ei hamgylchedd newydd.”

Llun: RSPCA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.