Newyddion S4C

Pêl-droed: Ystyried cyflwyno cardiau glas a chell gosb mewn gemau

09/02/2024
sin bin

Gallai cardiau glas a'r gell gosb gael eu cyflwyno mewn pêl-droed proffesiynol o dan gynlluniau gan Fwrdd y Gymdeithas Bêl-droed Ryngwladol (IFAB).

Fe fydd IFAB yn cyhoeddi cynlluniau manwl o'r treialon ddydd Gwener.

Yn y treialon, byddai cardiau glas yn caniatáu dyfarnwyr i anfon chwaraewyr oddi ar y cae am 10 munud oherwydd anghytuno neu am ffowlio. 

Byddai dau gerdyn glas yn golygu anfon y chwaraewr oddi ar y cae am weddill y gêm, fel ag y byddai un cerdyn glas ac un melyn. 

Mae disgwyl i IFAB gymeradwyo treialon ar gyfer y gell gosb mewn lefelau uwch o'r gêm yn ystod ei gyfarfod blynyddol ar 2 Mawrth yn Glasgow. 

Mae treialon mewn pêl-droed amatur ac ieuenctid eisoes wedi cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr.

Ond mae Uwch Gynghrair Lloegr eisoes wedi dweud na fydd yn rhan o'r treialon cychwynnol ac mae FIFA wedi dweud bod "adroddiadau o gerdyn glas ar lefelau uwch o'r gêm yn anghywir a chynamserol".

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Uwch Gynghrair Lloegr gyfaddef bod VAR (Video Assistant Referee) yn achosi oedi ac yn amharu ar fwynhad cefnogwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.