Gweinidog Iechyd yn gwadu bod rhestrau aros Cymru yn waeth na Lloegr
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gwadu honiad gan Aelod Seneddol Ceidwadol bod rhestrau aros Cymru yn waeth na Lloegr.
Dywedodd Eluned Morgan nad oedd yna "unrhyw dystiolaeth" i gefnogi honiadau wnaeth Alun Cairns yn San Steffan.
Wrth ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog Rishi Sunak, dywedodd Mr Cairns y byddai sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd, Aneurin Bevan, "yn troi yn ei fedd" petae'n gweld cyflwr y gwasanaeth yng Nghymru.
Honnodd bod cleifion yng Nghymru "yn gorfod aros yn hirach am ambiwlans, yn hirach am apwyntiad doctor, hirach mewn uned ddamweiniau, a hirach i gael llawdriniaeth nag yn Lloegr."
Ond wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan:"Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae rhestrau aros yng Nghymru wedi cynyddu 1.4%, o'i gymharu a 5,9% yn Lloegr.
"Does dim modd gwneud cymhariaethau rhwng amseroedd ymateb ambiwlans, oherwydd fod ganddom ni gategoriau gwahanol o ddigwyddiadau a thargedau gwahanol, a does dim tystiolaeth i gefnogi'r honiadau ynglyn ag unedau damweiniau.
"Rydym ni wedi buddsoddi mewn dulliau newydd er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu cael triniaeth argyfwng heb orfod mynd i unedau brys.
"Mae gan Gymru fwy o feddygon teulu y pen na Lloegr, a rydym ni wedi addasu contract y meddygon er mwyn cael gwared a'r "tagfa" 8 o'r gloch y bore."