Amy Dowden yn dysgu cwpwl sydd wedi newid eu dyddiad priodas oherwydd canser i ddawnsio
Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi bod yn dysgu cwpwl a newidiodd ddyddiad eu priodas oherwydd diagnosis canser i ddawnsio mewn cyfres ar y BBC.
Mae’r ddawnswraig 33 oed o Gaerffili wedi sôn o’r blaen sut y cafodd hi ei hun wybod fod ganddi ganser y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd y ddiagnosis o ganser y fron cam tri ym mis Mai 2023 ac o ganlyniad methodd fod yn ran o'r gyfres ddiweddaraf o Strictly.
Mae Amy yn dychwelyd i helpu aelodau o’r cyhoedd i ddysgu'r Foxtrot, y Tango a mwy yn y sioe realiti Dare To Dance.
Bydd yr ail dymor yn gweld cwpwl sydd ag obsesiwn â Chlwb Pêl-droed Wrecsam sy’n priodi, a chameo gan gyd-perchennog y clwb, Rob McElhenney.
'Goresgyn'
Yn ystod y gyfres, bydd Amy Dowden hefyd yn cwrdd â menyw ifanc a roddodd y gorau i ddawnsio pan ddechreuodd golli ei golwg a cholli ei hyder.
Dywedodd Dowden: “Rwyf wrth fy modd bod Dare To Dance yn ôl. Pan fyddaf yn dawnsio, rwy'n teimlo y gallaf oresgyn unrhyw beth.
“Mae'n rhywbeth rydw i eisiau i fwy o bobl ei brofi, rydw i wir yn credu y gall newid eich bywyd.
“Doeddwn i byth yn mynd i adael i’m diagnosis rwystro’r hyn rydw i’n ei garu fwyaf ac rydw i wrth fy modd y gallai fy nheulu dawnsio gwych gamu i mewn i sicrhau bod fy myfyrwyr arbennig yn rhoi perfformiad gwych i'w teulu a ffrindiau."
Dywedodd Nick Andrews, uwch bennaeth comisiynu BBC Cymru Wales: “Mae’n wych cael Dare To Dance yn ôl ar ein sgriniau, mae’n stwff emosiynol.
“Mae Amy wedi dod â chriw anhygoel a dewr o bobl ynghyd yn ogystal â rhai o’i ffrindiau showbiz."
Roedd sesiwn cemotherapi olaf Amy ym mis Tachwedd.
Bydd Dare To Dance yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales a BBC iPlayer fis nesaf.