Newyddion S4C

Rishi Sunak yn gwrthod ymddiheuro i dad Brianna Ghey

08/02/2024
Brianna Ghey

Mae Rishi Sunak wedi gwrthod ymddiheuro i dad Brianna Ghey gan ddweud ei bod yn beth “trist ac yn anghywir” i gysylltu ei jôc drawsryweddol yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog ag achos y ferch yn ei harddegau gafodd ei llofruddio.

Dywedodd tad Brianna, Peter Spooner, y dylai Mr Sunak ymddiheuro am y sylw “diraddiol” a wnaeth yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd Mr Sunak wedi cyhuddo Syr Keir Starmer o gael trafferth i “ddiffinio dynes” yn ystod ymosodiad ar y Blaid Lafur.

Roedd Esther Ghey, mam Brianna, oedd yn drawsryweddol, yn ymweld â'r Senedd pan anelodd Mr Sunak y sylw at Syr Keir.

Beirniadaeth

Fe ysgogodd ei sylw feirniadaeth ffyrnig o bob rhan o’r byd gwleidyddol, gyda Syr Keir yn dweud wrth Mr Sunak: “O’r holl wythnosau i ddweud hynny, pan mae mam Brianna yn y siambr hon. Cywilydd.”

Ond ddydd Iau honnodd y Prif Weinidog mai'r math gwaethaf o wleidyddiaeth oedd cysylltu ei sylwadau ag achos Brianna.

Ar ymweliad â Chernyw dywedodd wrth ohebwyr: “Fel pawb, cefais fy syfrdanu’n llwyr gan achos Brianna. Mae cael eich plentyn wedi’i gymryd oddi wrthych mewn amgylchiadau mor ofnadwy bron yn amhosibl dygymod ag ef, ac i fam Brianna oedd yn siarad gyda’r fath empathi a thosturi am hynny, roeddwn i’n meddwl ei bod yn ysbrydoledig, ac yn dangos y gorau o’r ddynoliaeth.

“Does gen i ddim byd ond y cydymdeimlad mwyaf twymgalon i’w theulu a’i ffrindiau cyfan.

“Ond i ddefnyddio’r drasiedi honno i dynnu oddi ar y pwynt eglur iawn yr oeddwn yn ei wneud am hanes Keir Starmer o droeon pedol lluosog ar bolisïau mawr, oherwydd nad oes ganddo gynllun, rwy’n meddwl ei fod yn drist ac yn anghywir, ac mae’n dangos y gwaethaf o wleidyddiaeth.”

Ymddiheuriad

Pan ofynnwyd iddo ymateb i alwad Mr Spooner am ymddiheuriad, mynnodd Mr Sunak fod ei sylwadau wedi bod yn “hollol gywir”.

“Os edrychwch ar yr hyn a ddywedais, roeddwn yn glir iawn, wrth siarad am hanes Keir Starmer o droeon pedol ar bolisïau mawr oherwydd nad oes ganddo gynllun.”

Awgrymodd gweinidog y cabinet Penny Mordaunt fod Mr Sunak wedi “adlewyrchu ar y sefyllfa” ar ôl ei sylwadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.