Newyddion S4C

Cadarnhad nad yw'r Seintiau Newydd wedi hawlio record y byd Guinness

08/02/2024
Y Seintiau Newydd 2024

Mae Clwb Pêl Droed Y Seintiau Newydd wedi dweud eu bod yn ‘siomedig’ ar ôl derbyn cadarnhad nad yw eu rhediad o 27 o fuddugoliaethau wedi hawlio record y byd Guinness.

Ar ôl trechu’r Drenewydd 3-0 nos Fawrth, roedd y clwb a’r gynghrair Cymru Premier JD wedi trydar bod y Seintiau wedi llwyddo i ddod yn gyfartal â’r record byd am nifer o fuddugoliaethau yn olynol.

Y clwb o Groesoswallt oedd eisoes wedi gosod y record honno, gyda rhediad o 27 o fuddugoliaethau rhwng Awst a Rhagfyr 2016.

Ond, daeth cadarnhad gan Guinness fore Iau nad oedd y rhediad yn gymwys am record wedi’r cwbl.

Er eu bod wedi llwyddo i ennill 27 gêm o’r bron, fe wnaeth Guinness gysylltu gyda’r clwb a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i egluro mai dim ond buddugoliaethau wedi 90 munud oedd yn cyfrif.

Gan fod y Seintiau wedi ennill ar giciau o’r smotyn ar ôl 90 munud yn erbyn East Fife yng Nghwpan Her yr Alban fis Hydref, nid oedd y rhediad yn gymwys am y record.

Cadarnhawyd mai rhediad o 20 o fuddugoliaethau cymwys y mae YSN arno ar hyn o bryd.

Mewn datganiad gan y Cymru Premier JD, dywedodd Guinness World Records eu bod yn ymddiheuro am “gam-gyfathrebu”.

Dywedodd llefarydd ar ran Y Seintiau Newydd: “Rydym yn naturiol yn siomedig i glywed nad yw ein rhediad buddugol o 27 gêm bellach yn gymwys i fod yn gyfartal â record y byd.

“Ar 6 Chwefror, cadarnhaodd Guinness World Records ein bod wedi cyrraedd record y byd, ac yna ar 7 Chwefror, dywedwyd wrthym fod “cam-gyfathrebu” wedi bod yn ôl pob tebyg ac nad ydym bellach wedi cyrraedd record y byd.

“O’n safbwynt ni, buddugoliaeth yw buddugoliaeth, ac felly rydym wedi sicrhau 27 buddugoliaeth o’r fron – camp wych gan Craig a’r tîm, ac un sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

“Rydym mewn cysylltiad â Guinness World Records, ac rydym yn obeithiol o benderfyniad sy’n gydnabyddiaeth deg o gamp ryfeddol y clwb ar y cae.”

Llun: Nik Mesney/Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.