Gwrthod cynlluniau’r llywodraeth i gyflwyno treth ar dwristiaeth

Gwrthod cynlluniau’r llywodraeth i gyflwyno treth ar dwristiaeth
Mae rhai sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi gwrthod cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar dwristiaeth.
Fe fyddai’r cynllun arfaethedig yn cyflwyno costau ychwanegol i ymwelwyr, ond nid yw pawb yn cytuno gyda chynllun llywodraeth Mr Drakeford.
Mae Nia Jones o Gynghrair Twristiaeth Môn yn galw ar "fwy o ymchwilio" i'r cynllun cyn i'w gyflwyno.
"Mae hwn yn rhyw bwnc llosg ar y funud," dywedodd.
"Mae o wedi gweithio ac yn llwyddo mewn llawer o wledydd drosodd yn Ewrop.
"Dwi'm yn meddwl dylia ni neud rhywbeth ar frys, mae eisiau ymchwilio fewn i’r peth - fydda'r ymwelwyr yn derbyn treth felly, ac a ydy'r diwydiant eisiau delio efo treth ar yr adeg yma?"
Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai'r dreth fod yn gyfle i gynghorau lleol fuddsoddi yn y gwasanaethau sydd yn helpu'r diwydiant twristiaeth.
Er hynny, mae'r llywodraeth yn pwysleisio na fydd hyn yn cael ei orfodi ar y diwydiant a bydd sgwrs ac ymgynghoriad i drafod y mater.