Newyddion S4C

Gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd wedi gwella'n sylweddol medd Cadeirydd Betsi Cadwaladr

Newyddion S4C 08/02/2024

Gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd wedi gwella'n sylweddol medd Cadeirydd Betsi Cadwaladr

Mae gwasanaethau fasgiwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “o blith y gorau drwy Gymru” yn ôl cadeirydd y sefydliad.

Ers 2019 mae’r gwasanaeth sy’n ymdrin â chylchrediad y gwaed wedi bod yn detsun sawl adroddiad damniol gyda chlefiion wedi eu peryglu oherwydd gofal gwael.

Tra’n cydnabod bod y gofal wedi bod yn “anniogel” dywedodd Dyfed Edwards ei fod wedi derbyn sicrwydd fod pethau wedi gwella'n sylweddol a bod ganddo hyder yn y gwasanaeth bellach.

Fe gafodd gwasanaethau eu canoli o Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn 2019 a’u symud i Ysbyty Glan Clwyd.

Ers hynny mae sawl adroddiad hynod feirniadol wedi bod am safon y gofal gan gyrff fel Arolygiaeth Gofal Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Y llynedd fe gafodd cleifion eu symud i unedau dros y ffin oherwydd fod pryderon mor ddifrifol, ond mynnu mae’r Cadeirydd fod y sefyllfa wedi gwella.

“Dwi ‘di cael cyfarfod pythefnos yn ôl gyda’r brif berson sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru ym maes fasgiwlar ac mae o wedi rhoi sicrwydd i mi a’r Prif Weithredwr fod y gwasanaethau fasgiwlar ymysg y gorau yng Nghymru bellach”, meddai Mr Edwards.

“Mi oedd o’n gwbl anniogel ac yn gwbl annerbyniol, bellach mae datblygiadau wedi bod a’r sicrywdd ‘da ni wedi cael yw bod y gwasanaeth wedi gwella yn sylweddol a mae gynom ni hyder yn y gwasanaeth a’r sawl sy’n gweithio yno."

Aros

Fe ddyweodd Llywodraeth Cymru bod adroddiad gan Rwydwaith Fasgwlar Cymru hefyd yn dangos bod gwasanaethau wedi gwella a hynny yn dod wedi adroddiad tebyg gan Arolygiaeth Cymru.

Ond i rheini sydd wedi derbyn triniaeth wael mae ‘na bryder o hyd.

Mae Arwel Davies o Wynedd bellach yn derbyn gofal fasgiwlar dros y ffin.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Ar ôl tua chwe mis geshi ddim triniaeth a dim edrych mlaen at y cam nesa a dyna pam dwi di gorfod mynd i’r Queen Elizabeth yn Birmingham”.

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwella i gleifion.

Mae'r corff Llais Cymru, fu unwaith dan enw'r Cynghorau Iechyd Cymuned wedi bod yn trafod pryderon gwasanaethau fasgiwlar gyda chleifion ers blynyddoedd.

'Gwella'

Yn ôl Geoff Ryall Harvey o’r corff arolygu iechyd lleol mae arwydd o newid wedi bod ond bod hefyd lle eto i wella.

“Mae pethau wedi gwella - mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud fod o’n ddiogel.

“Ond mae’n rhaid cofio fe gafodd pobl loes er mwyn ein cael i’r sefyllfa hwn... fod adfer mond wedi digwydd ar ôl i bobl eraill dalu’r pris”.

Yn ôl Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, mae angen cymryd sylwadau y Cadeirydd gyda “phintshiad bach o halen” tra’n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gwella yn gyffredinol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod am graffu ar y dystiolaeth cyn gwneud sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.