Newyddion S4C

Arestio menyw wedi marwolaeth 'anesboniadwy' menyw 44 oed ym Maesteg

07/02/2024
Maesteg

Mae menyw 25 oed wedi ei harestio yn dilyn marwolaeth menyw arall ym Maesteg.

Cafodd swyddogion eu galw ychydig cyn 07.10 fore dydd Mercher yn dilyn adroddiad o bryder am les menyw mewn cyfeiriad ym Mynydd Glas, Caerau.

Daeth cadarnhad bod menyw 44 oed wedi marw yn y fan a’r lle ac mae ymholiadau’n parhau i ganfod union achos y farwolaeth sy’n anesboniadwy ar hyn o bryd.

Mae'r fenyw sydd wedi ei harestio yn adnabod yr unigolyn a fu farw, ac mae’n parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau’n parhau.

Mae teulu’r fenyw sydd wedi marw wedi cael gwybod am y farwolaeth ac mae swyddogion arbenigol yn darparu cymorth iddyn nhw.

Bydd presenoldeb cynyddol gan yr heddlu yn yr ardal tra bod ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.