Newyddion S4C

28 wedi marw yn dilyn dau ffrwydrad ym Mhacistan

07/02/2024
Ffrwydrad Pacistan

Cafodd o leiaf 28 o bobl eu lladd yn dilyn dau ffrwydrad bom ym Mhacistan ddydd Mercher, meddai swyddogion.

Roedd y ddau fom wedi ffrwydro ger swyddfeydd ymgeiswyr ar gyfer etholiadau cyffredinol yn y wlad yn nhalaith Balochistan.

Fe wnaeth y ffrwydrad cyntaf ladd 16 o bobl yn ardal Pishin, i'r gogledd o ddinas Quetta.

Fe wnaeth yr ail ffrwydrad lladd 12 o bobl yn Qila Saifullah i’r dwyrain. Nid oedd unrhyw grwpiau wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.

Mae'r heddlu'n dal i geisio darganfod achos y ddau ffrwydrad.

Fe aeth y bom yn Pishin, tref tua 100km i’r de-ddwyrain o ffin Afghanistan, ffrwydro o flaen swyddfa plaid ymgeisydd annibynnol. 

Dywedodd awdurdodau'r dalaith fod 25 o bobl hefyd wedi'u hanafu.

Roedd delweddau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir a beiciau modur wedi’u chwythu’n ddarnau gan rym y ffrwydrad.

Targedodd yr ail ffrwydrad swyddfa etholiad plaid JUI-F. 

Cafodd ugain o bobl eu hanafu yn y digwyddiad ac fe allai'r nifer sydd wedi'u hanafu yn y ddau ymosodiad godi, meddai swyddogion.

Yn dilyn ymosodiadau dydd Mercher, dywedodd llywodraeth Balochistan y byddai pleidlais ddydd Iau yn mynd yn ei flaen.

“Yn dawel eich meddwl, ni fyddwn yn caniatáu i derfysgwyr danseilio na difrodi’r broses ddemocrataidd hollbwysig hon,” postiodd gweinidog gwybodaeth y dalaith Jan Achakzai ar X, Twitter gynt.

Llun: AFP / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.