Pryder am beryglon hylif fêpio anghyfreithlon a chyffuriau presgripsiwn ffug
Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn rhybuddio am beryglon iechyd posib wrth ddefnyddio e-hylifau canabis.
Daw'r rhybudd wedi i brofion ganfod bod rhai o'r hylifau fêpio hyn yn cynnwys y cyffur synthetig cryf sy'n cael ei adnabod fel 'spice'.
Gweithyddion derbynyddion canabinoidau synthetig (SCRA) yw'r term llawn am y cyffur, sydd yn grŵp o ganabinoidau synthetig sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd difrifol yn amrywio o anawsterau anadlu i gyfnodau seicotig.
Daw'r pryder gan unig wasanaeth profi cyffuriau cenedlaethol y DU, WEDINOS sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
Mae eu data diweddaraf yn dangos o 196 o samplau o hylifau a gyflwynwyd yn 2023 a brynwyd yn y gred eu bod yn hylifau canabis, CBD neu THC, roedd 75 yn cynnwys un neu fwy o SCRA.
Mae arbenigwyr yn WEDINOS hefyd yn pryderu am y cynnydd enfawr yn nifer y samplau o gyffuriau presgripsiwn ffug y maent yn eu derbyn.
Maen nhw'n dweud bod rhain yn cael eu halogi gan sylweddau a allai fod yn beryglus, gan gynnwys Nitazines mewn bresgripsiwn fel Diazepam ac Oxycodone.
Gall yr opioidau synthetig cryfder uchel fygwth bywyd ac mae'r risg o orddos yn uchel.
'Risg uchel'
Mae'r Athro Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod risg uchel o orddos wrth ddefnyddio'r cyffuriau anghywir.
Mae'n galw ar bobl i dderbyn presgripsiwn gan eu meddyg teulu yn unig.
“Ni ellir gorbwysleisio'r risg uwch o orddos yn sgil cyffuriau cryfder uchel.
"Rydym yn pryderu efallai nad yw pobl yn cael yr hyn maent yn credu eu bod yn ei gael, wrth brynu cyffuriau ar-lein. Dim ond gan feddyg teulu y dylid cael cyffuriau presgripsiwn.
"Mae'r risg o orddos angheuol yn uchel o rai o'r samplau a dderbyniwn, yn enwedig pan fydd sylweddau'n cael eu defnyddio gan y rhai nad ydynt yn sylweddoli'r risgiau y maent yn eu peri neu pan maent yn eu defnyddio ar y cyd â sylweddau eraill."
Cyhoeddodd WEDINOS eu canlyniadau profion cyntaf ym mis Hydref 2013 - powdr gwyn anhysbys o Gasnewydd ac roedd y person a'i defnyddiodd wedi cael ei dderbyn i'r ysbyty.
Ers hynny, maen nhw wedi profi dros 33,000 o samplau o amrywiaeth eang o ffynonellau ledled Cymru a'r DU ehangach.
Mae samplau yn cael eu hanfon o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyhoedd, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, heddluoedd Cymru, adrannau damweiniau ac achosion brys a charchardai.
Llun: Pixabay