Newyddion S4C

Rishi Sunak yn gwrthod ymddiheuro am sylw trawsryweddol ar lawr Tŷ'r Cyffredin

07/02/2024
Rishi Sunak - PMQs cyntaf

Mae Rishi Sunak wedi gwrthod ymddiheuro am wneud jôc drawsryweddol yn San Steffan, tra roedd mam Brianna Ghey yn y siambr yn gwylio sesiwn holi'r Prif Weinidog.

Tra'n taro nôl yn erbyn yr arweinydd Llafur, dywedodd fod Syr Keir Starmer yn ei chael hi'n anodd "diffinio dynes."

Mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn, ond yn ôl Downing Street, doedd ei sylw ddim yn drawsffobig.   

Yn ystod y ddadl yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Mr Sunak: “Ry'n ni'n gostwng rhestrau aros ar gyfer y rhai sy'n aros hiraf, ond mae hi braidd yn chwerthinllyd clywed am addewidion gan rywun sydd wedi torri pob addewid.

“Rwy'n credu i mi gyfri tua 30 yn y flwyddyn ddiwethaf. Pensiwn, cynllunio, arglwyddi, sector cyhoeddus, ffioedd dysgu, gofal plant, ail refferendwm, diffinio dynes - er â bod yn deg, doedd hynny ond yn 99% o dro pedol."     

Cafodd y sylw ei feirniadu ar unwaith gan yr arweinydd Llafur a fydd yn cyfarfod â mam Brianna, Esther Ghey yn ddiweddarach. Roedd nifer hefyd ar feinciau cefn Llafur yn gweiddi "cywilyddus."  

Cafodd Brianna Ghey a oedd yn ferch drawsryweddol ei llofruddio y llynedd mewn parc yn Warrington, Sir Caer. 

Ddydd Gwener, cafodd merch a bachgen 16 oed, Scarlett Jenkinson ac Eddie Ratcliffe eu dedfrydu i garchar am oes am ei llofruddio.  

Mae Rhif 10 wedi gwrthod ymddiheuro am eiriau Mr Sunak gan ddweud eu bod yn rhan o feirniadaeth "gyfiawn" am  y Blaid Lafur.

“O bob wythnos i ddweud hynny, pan fo mam Brianna yn y siambr hon,"meddai Syr Keir.

“Rwy'n credu mai rôl y Prif Weinidog yw sicrhau fod pob dinesydd yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei barchu - mae'n siomedig nad yw'r Prif Weinidog yn rhannu hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.