Newyddion S4C

Lloegr v Cymru: George North yn dychwelyd i'r tîm

07/02/2024
George North

Fe fydd George North yn dychwelyd i dîm Cymru ddydd Sadwrn i herio Lloegr yn ail gêm y Chwe Gwlad eleni i'r crysau cochion. 

Mae North ymysg saith o newidiadau i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn diwethaf. 

Fe fydd Alex Mann yn dechrau ei gêm ryngwladol gyntaf wedi ei ymddangosiad a'i gais cyntaf y penwythnos diwethaf, gan ymuno â Tommy Reffell ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl. 

Bydd Tomos Williams yn dechrau yn safle'r mewnwr, gyda Ioan Lloyd wedi ei ddewis fel maswr.

Fe fydd y prop pen rhydd Gareth Thomas yn dychwelyd wedi anaf gydag Elliot Dee a Keiron Assiratti yn cael y cyfle i ddechrau yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn hefyd. 

Y capten Dafydd Jenkins ac Adam Beard fydd yn parhau yn yr ail reng. 

Cameron Winnett sydd wedi ei enwi yn gefnwr, gyda Rio Dyer a Josh Adams ar yr esgyll. 

Mae Will Rowlands, Taine Basham a Kieran Hardy i gyd yn dychwelyd i'r garfan, gyda Archie Griffin a Cai Evans yn gobeithio gwneud ymddangosiadau o'r fainc. 

Mae Corey Domachowski, Ryan Elias a Mason Grady ymysg yr eilyddion ar gyfer y gêm hefyd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland:"Ry’n ni wedi bod yn eithaf beirniadol o ni’n hunain yr wythnos hon. Doedd ein perfformiad hanner cyntaf ddydd Sadwrn ddim yn dderbyniol o ystyried y safonau ry’n ni wedi eu gosod i ni’n hunain. Allwn ni ddim dechrau fel yna eto’r Sadwrn hwn.

"Fe ddangoson ni beth ry’n ni’n gallu ei wneud yn ystod yr ail hanner yn erbyn Yr Alban. Mater o adeiladu ar hynny a chwarae gyda’r un cyflymdra a dwyster o’r dechrau yw’r bwriad yn Twickenham.

"Ry’n ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg fydd yn dechrau, sy’n cynnig cyfleoedd i’r chwaraewyr hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae.

"Mae hon yn gêm anferth – nid yn unig oherwydd yr hanes a’r hyn y mae herio’r Hen Elyn yn ei olygu i bobl Cymru. Yn ychwanegol at hynny - mae hwn yn gyfle i ni gyrraedd y safonau disgwylidig unwaith eto.

"Mae Lloegr eu hunain yn mynd trwy gyfnod o newid ac felly byddwn yn mynd yno gyda hyder y gallwn adeiladu ar ein perfformiad ail hanner yr wythnos ddiwethaf gan arddangos yr un hunan gred y dangoson ni yn ystod y deugain munud hwnnw hefyd."

Tîm Cymru

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 1 cap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 55 cap)
13. George North (Gweilch – 118 cap)
12. Nick Tompkins (Saraseniaid – 33 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 15 cap)
10. Ioan Lloyd (Scarlets – 3 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 54 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 26 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 47 cap)
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 3 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 13 cap) Capten
5. Adam Beard (Gweilch – 52 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 1 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 14 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 44 cap)

Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 39 cap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 7 cap)
18. Archie Griffin (Bath Rugby - heb gap)
19. Will Rowlands (Racing 92 – 29 cap)
20. Taine Basham (Dreigiau – 16 cap)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)
22. Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 7 cap)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.