Newyddion S4C

Gwrthod cais Gary Glitter i gael ei ryddhau o'r carchar

07/02/2024
Gary Glitter

Mae Bwrdd Parôl wedi gwrthod cais Gary Glitter i gael ei ryddhau o'r carchar. 

Daw'r penderfyniad wedi i wrandawiad parôl gael ei gynnal yn breifat fis diwethaf i ystyried yr achos.

Yn defnyddio'r enw Gary Glitter wrth berfformio ar lwyfan, cafodd Paul Gadd ei garcharu yn 2015 am gam-drin tair merch ysgol yn rhywiol rhwng 1975 a 1980.

Roedd y merched yn 13 oed ac iau.

Ni ddaeth troseddau'r canwr pop i'r amlwg am 40 mlynedd, wedi i Heddlu'r Met ddechrau ymchwiliad Operation Yewtree yn dilyn honiadau yn erbyn y cyflwynydd Jimmy Saville.  

Mae ei ddedfryd yn dod i ben ym mis Chwefror 2031.

Cafodd ei ryddhau o garchar yn Portland, Dorset, fis Chwefror y llynedd wedi wyth mlynedd o dan glo, sef hanner ei ddedfryd o 16 mlynedd.

Lai na chwe wythnos wedi iddo adael y carchar, cafodd ei anfon yn ôl yno am dorri amodau ei drwydded, yn dilyn honiadau iddo wylio delweddau o blant oedd wedi eu lawrlwytho.

Mewn penderfyniad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, dywedodd y Bwrdd Parôl: "Ar ôl ystyried amodau ei droseddu, y diffyg cynnydd sydd wedi ei wneud tra yn y ddalfa ac ar drwydded, a'r dystiolaeth arall a gyflwynwyd yn y gwrandawiad, nid oedd y panel yn fodlon y byddai ei ryddhau rŵan yn ddiogel o ran amddiffyn y cyhoedd.

"Yn hytrach, fe wnaeth y panel ystyried fod Mr Gadd wedi ei leoli yn briodol yn y ddalfa lle mae modd mynd i'r afael â'r lefelau o risg." 



 





 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.