Y chwilio'n parhau am ddyn wythnos wedi ymosodiad ar fam a'i phlant
Mae’r chwilio’n parhau am ddyn, wythnos wedi ymosodiad ar fam a’i dwy ferch pan gafodd hylif cemegol ei daflu tuag atyn nhw gan achosi anafiadau fydd yn “newid eu bywydau.”
Mae’r Heddlu'r Met wedi bod yn chwilio am Abdul Ezedi ers dydd Mercher diwethaf, wedi'r ymosodiad ar y fenyw a’i phlant, sy’n dair ag wyth oed, yn ardal Clapham yn ne Llundain.
Fe allai’r fam 31 oed golli ei golwg yn ei llygad dde, yn ôl yr heddlu.
Mae’r llu wedi cynnig £20,000 am wybodaeth ynglŷn â lleoliad Ezedi, 35 oed, ac mae rhagor o ddelweddau CCTV bellach wedi’u cyhoeddi wrth i’w hapêl barhau.
Fe gafodd Ezedi ei weld ddiwethaf am oddeutu 22.04 nos Fercher, pan aeth heibio adeilad Unilever a cherdded i gyfeiriad Victoria Embankment yn Llundain, meddai’r Met.
Mae llun o Abdul Ezedi wedi ei gyhoeddi gan yr heddlu, yn ei ddangos gydag "anafiadau sylweddol" i ochr dde ei wyneb tra roedd yn siop Tesco ar Ffordd Caledonian yn Islington.
Y gred yw fod Ezedi wedi teithio i lawr o Newcastle ar ddiwrnod yr ymosodiad, ond mae ansicrwydd beth yn union arweiniodd at y digwyddiad.
Y gred yw ei fod wedi ffoi o Afghanistan, a hynny yng nghefn lori yn 2016.
Yn Llys y Goron Newcastle ar 9 Ionawr 2018, fe blediodd Ezedi’n euog i ymosodiad rhyw ac ymddwyn mewn modd amhriodol.
Cafodd ei enw ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod o 10 mlynedd.
Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â sut cafodd Ezedi loches yn y Deyrnas Unedig, gyda honiadau fod barnwr mewn tribiwnlys wedi dyfarnu o’i blaid ar ôl i offeiriad ddweud ei fod wedi troi at Gristnogaeth.
Wrth i'r heddlu barhau i chwilio amdano, cafodd dyn 22 oed ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, cyn cael ei ryddhau ar fechniaeth
Yn ôl y llu, does dim tystiolaeth i awgrymu fod Abdul Ezedi wedi cynllunio i ffoi. Ac mae'r heddlu o'r farn ei fod naill ai yn cael ei warchod gan rywun neu ei fod mewn trybini.
Nid fe yw tad y plant a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad, ond mae'r heddlu yn credu ei fod e yn Llundain er mwyn ymweld â'u mam.