Newyddion S4C

Y Brenin Charles wedi ei weld yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei ddiagnosis canser

06/02/2024
y brenin charles.png

Mae'r Brenin Charles wedi ei weld yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei ddiagnosis canser, ar ôl iddo adael Clarence House ddiwrnod wedi iddo ddechrau ei driniaeth.  

Fe adawodd ei gartref yn Llundain brynhawn Mawrth ar ôl cyfarfod â'r Tywysog Harry am gyfnod byr. 

Roedd ei fab ieuengaf wedi teithio yno o'i gartref yn nhalaith California yn America, ar ôl i'r Brenin gysylltu ag e i ddweud fod ganddo ganser.  

Cafodd y Brenin Charles a'r Frenhines eu hebrwng mewn car o'u cartref yn Llundain i Balas Buckingham, cyn cael eu hedfan mewn hofrennydd i'w cartref arall yn Sandringham, Norfolk.

Cyrhaeddodd y Tywysog Harry Lundain heb ei wraig Meghan a'u plant, a hynny lai na phedair awr ar hugain ers i Balas Buckingham gyhoeddi'r newyddion am gyflwr iechyd y Brenin. 

Digwyddodd y cyfarfod byr rhwng y Brenin a'r Tywysog Harry wedi perthynas dymhestlog rhwng y ddau yn ddiweddar. 

45 munud barodd y cyfarfod rhyngddyn nhw brynhawn Mawrth.   

Ac yn ôl ffynonellau, dyw hi ddim yn ymddangos y bydd yna gymodi rhwng y Tywysog Harry a'i frawd William, gyda chyfarfod rhwng y ddau yn anhebygol.  

Datgelodd Palas Buckingham nos Lun fod y canser wedi ei ddarganfod yn ystod triniaeth ddiweddar y Brenin ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.  

Dyw'r math penodol o ganser ddim wedi ei ddatgelu, ond yn ôl datganiad gan y palas, fe ddechreuodd y Brenin ar driniaethau rheolaidd ddydd Llun.   

Ychwanegodd Palas Buckingham : "Mae'r Brenin yn dal i deimlo'n gadarnhaol iawn am ei driniaeth, ac yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'w ddyletswyddau cyhoeddus cyn gynted â bo modd." 

Treuliodd Y Brenin Charles nos Lun yn ei gartref yn Llundain, Clarence House, ar ôl dechrau ar ei driniaeth canser. 

Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, mae e mewn cyswllt cyson â'r Brenin. 

Ychwanegodd fod y Brenin yn ddiolchgar bod y salwch wedi ei "ganfod yn gynnar." 

Bu'r Brenin Charles sy'n 75 oed, mewn gwasanaeth eglwysig yn Sandringham ddydd Sul. 

Cafodd driniaeth ar gyfer y prostad mewn ysbyty preifat yn Llundain dros wythnos yn ôl.

Ni fydd y Brenin Charles yn ymgymryd â'i ddyletswyddau cyhoeddus tra ei fod yn cael triniaethau ar gyfer y canser, ond yn ôl Palas Buckingham, bydd yn parhau i gyflawni gwaith gweinyddol.   

Y Tywysog William 

Mae disgwyl i fab hynaf y Brenin, y Tywysog William ail gydio yn ei ddyletswyddau brenhinol ddydd Mercher.

Dyma fydd ei wasanaeth cyhoeddus cyntaf ers i'w wraig, y Dywysoges Catherine gael llawdriniaeth fis diwethaf. 

Mae disgwyl iddo fod yn bresennol mewn seremoni yng Nghastell Windsor, cyn mynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Llundain.

Bydd yn ail gydio yn ei ddyletswyddau brenhinol ar ei ben ei hun, yn sgil salwch ei wraig. Does dim disgwyl iddi hi ddychwelyd i'w rôl gyhoeddus tan ar ôl y Pasg. 

Ac mae'n ymddangos y bydd y Tywysog William hefyd yn cynrychioli ei dad gyda rhai o'r dyletswyddau oedd ar y gweill ar gyfer y Brenin yn yr wythnosau nesaf. 

Chwaer y Brenin, y Dywysoges Anne gyflawnodd y dyletswyddau brenhinol ddydd Mawrth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.