Dim modd i Donald Trump osgoi erlyniad ar y sail iddo fod yn arlywydd
Mae'r llys apêl yn America wedi dyfarnu nad oes modd i Donald Trump osgoi erlyniad troseddol ar y sail iddo fod yn arlywydd.
Mae hynny'n golygu bod modd ei erlyn ar gyhuddiadau yn ymwneud â chynllwyn i newid canlyniad etholiad arlywyddol America yn 2020.
Mewn her gyfreithiol, roedd Mr Trump yn honni nad oedd modd ei erlyn am weithredoedd yr oedd e'n dadlau a oedd yn rhan o'i ddyletswyddau fel arlywydd.
Ond gwrthod hynny wnaeth y llys yn Washington DC ddydd Mawrth.
Mae hynny'n ergyd i Donald Trump, sydd wedi bod yn ceisio dadlau ers blynyddoedd nad oedd modd ei erlyn oherwydd iddo fod yn arlywydd.
Mae disgwyl iddo apelio yn erbyn y dyfarniad diweddaraf, sy'n golygu y byddai'r achos yn cael ei drosglwyddo i'r Goruchaf Lys.
Mae Mr Trump, 77 wedi ei gyhuddo o gynllwynio i geisio newid canlyniad etholiad 2020 a buddugoliaeth yr Arlywydd Joe Biden, yn ogystal â thwyllo er mwyn ceisio parhau yn ei swydd.