Newyddion S4C

Yr arth wen sy'n 'tanio emosiynau cryfion' yn ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth

07/02/2024
Nima Sarikhani.png

Mae llun o arth wen ifanc yn syrthio i gysgu ar fynydd iâ wedi ennill Gwobr y Bobl yng nghystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn. 

Fe gafodd y llun ei dynnu gan y ffotografydd Nima Sarikhani o'r DU, wedi i 75,000 o bobl ddewis eu hoff lun o restr fer o 25. 

Y Natural History Museum yn Llundain sy'n cynnal y gystadleuaeth. Dywedodd Dr Douglas Gurr, cyfarwyddwr yr amgueddfa fod y llun yn cynrychioli effaith newid hinsawdd.

Dywedodd Mr Sarikhani ei fod eisiau i'r llun gynnig ysbrydoliaeth am obaith, oherwydd bod eirth gwynion yn gallu addasu a bod amser o hyd i "fynd i'r afael â'r llanast yr ydym ni wedi ei achosi" i'w hamgylchedd.

Wedi tridiau o chwilio am eirth gwynion yn Norwy, penderfynodd y llong yr oedd Mr Sarikhani arni newid cyfeiriad i ardal lle'r oedd ychydig o iâ môr o hyd. A daeth y criw o hyd i ddwy arth. 

Ychydig cyn hanner nos, dringodd un o'r eirth ar y mynydd iâ a defnyddio ei phawennau i gael gwared â'r iâ er mwyn creu gwely i'w hun, gan alluogi Mr Sarikhani i gymryd llun o'r foment. 

Dywedodd Mr Sarikhani: "'Dw i wrth fy modd i ennill Gwobr y Bobl am Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, y gystadleuaeth ffotograffiaeth bywyd gwyllt wych hon.

"Mae'r llun wedi tanio emosiynau cryfion ymhlith nifer o bobl sydd wedi ei weld.

"Er mai newid hinsawdd ydi'r her fwyaf rydym ni'n ei hwynebu, dwi'n gobeithio y gall y llun yma hefyd roi gobaith."

Dywedodd Dr Gurr: "Mae llun arbennig a theimladwy Nima yn ein galluogi ni i weld prydferthwch a pha mor fregus yw ein planed."

Llun: Nima Sarikhani/ Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.