Teyrngedau i 'y Brenin' Barry John
Teyrngedau i 'y Brenin' Barry John
Dewin. Athrylith. A'r teyrngedau am ddawn y Cymro, Barry John, wedi llifo ers ei golli.
That was truly a magnificent try!
Roedd e'n fachan arbennig â cymeriad arbennig. Tawel, yn mwynhau ei hunain. O'dd y meddwl gyda fe am y gêm yn rhyfedd. Lot o faswyr, bydden nhw'n cael y bel ac yn gwneud beth oedd yn dod yn naturiol i nhw.
O'dd Barry fel tasai fe wedi meddwl mas beth o'dd i wneud. Byddai fe'n gweud, "Ga, dod hi lawr fan hyn i fi". "Dere i fan hyn. Cer i fan'na". Beth o'dd e'n neud mwy na dim byd oedd rhoi hyder mawr i'r tîm a'r mwynhad o'n i'n cael o'r ffordd o'dd e'n whare.
Gyda champ lawn a dwy goron driphlyg i'w enw mae Barry John hefyd yn cael ei gydnabod fel ysbrydoliaeth ôtu ol i fuddugoliaeth enwog y Llewod dros y Crysau Duon yn 1971.
The finesse of John at the end.
Gan ennill 25 cap dros ei wlad rhwng 1966 a '72 y mwyafrif gyda'i gyfaill Gareth. Roedd hon yn bartneriaeth na welwyd erioed mo'i thebyg.
"Ga, twl di 'ddi, dala i 'ddi". Welais i trwyddo fe'n gyflym iawn. Mae'r bachan hyn yn mynd i fod yn bartner i fi am sbel.
Yn dilyn y llwyddiant fe saethodd enwogrwydd John i'r entrychion. Roedd y sylw'n ormod iddo. Yn ddisymwth ac ar ben ei gêm ac yntau'n 27 oed fe gyhoeddodd Barry John ei fwriad i ymddeol o'r gamp.
Chwarae'r gêm olaf a tithau'n 27. Roedd e wedi cael digon. Fe chwaraeodd ei gêm olaf mewn gêm elusennol yn enw'r Urdd. 15 Carwyn James yn erbyn 15 Barry John. A dyna fel ddigwyddodd pethau.
Roedd 35,000 yno ar nos Fercher. Roedd tîm Carwyn ar y blaen 28-26 tair munud cyn y diwedd. Yna, trosglwyddwyd y bel i Barry John. Ochrgamu, twyllo, croesi am ei linell gais a'i gais olaf. Roedd e mor naturiol, yn mwynhau ar y cae ac oddi ar y cae cyn belled bod e ddim yn cael gormod o sylw.
Wedi'i fagu yng Nghefneithin, fel yr enwog Carwyn James o'i flaen mae 'na gofio melys amdano ymhlith ei gyfeillion.
Fel person, roedd o'n bachgen hyfryd. Fi'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i'n gallu galw ffrind arno fe ac roedd e'n galw ffrind arna i. O'n i'n ffrind mawr iddo, dod i nabod ein gilydd siarad â'n gilydd am Gaerdydd a siarad am yr amser yn blant ac mae hanes yn gweud y cyfan.
Daeth e nôl o Seland Newydd a'r enw newydd o King John! Mae gan ei gyfaill stori am newyddiadurwr yn dod i weld y Brenin yn ymarfer ar Draeth Aberafan dan hyfforddiant Clive Rowlands. Hynny'n crisialu'r cyfan!
"Do tell me what happens if the tide is in," weddodd e. Clive yn mynd "That's easy, I just get Barry John to come and send it back out." Oedd y bachan ddim yn gwybod beth i weud.
Dyna beth oedd Barry'n golygu i ni ar y pryd. Doedd dim byd gallai Barry ddim wneud.
Barry'r Brenin a'i enw wedi anfarwoli fel un o oreuon erioed i wisgo'r crys coch.