Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Seb Davies a Dillon Lewis yn ymuno â charfan Cymru

06/02/2024
Seb Davies a Dillon Lewis

Mae Warren Gatland wedi galw'r clo Seb Davies a'r prop Dillon Lewis i garfan Chwe Gwlad Cymru, tra bod James Botham allan yn dilyn anaf.

Mae'r blaenasgellwr Botham wedi gadael y garfan ar ôl dioddef anaf i'w ben-glin yn ystod gêm agoriadol Cymru yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn diwethaf.

Sgoriodd Botham cais yn y golled o 27-26 ond ni fydd ar gael i herio Lloegr yn Twickenham, wrth iddo ddychwelyd i'w glwb Caerdydd am driniaeth.

Mae Seb Davies, sydd hefyd yn chwarae i Gaerdydd, wedi ei alw i gymryd ei le yn y pac.

Mae'r chwaraewr 27 oed, sydd â 16 cap dros Gymru, yn gallu chwarae yn y rheng ôl yn ogystal â'i safle arferol yn yr ail reng.

Mae prop y Harlequins, Dillon Lewis hefyd wedi ymuno â'r garfan.

Mae'r blaenwr 28 oed wedi chwarae 54 gwaith dros Gymru ac fe fydd yn ychwanegu profiad sylweddol i'r rheng flaen.

Roedd yn rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2023 ond ni chafodd ei gynnwys yng ngharfan wreiddiol y Chwe Gwlad.

Daw'r newidiadau i'r garfan yn dilyn adroddiadau y bydd y clo Will Rowlands a'r canolwr George North ar gael i chwarae yn erbyn Lloegr yn ogystal.

Mae Rowlands wedi ymuno â'r garfan ar ôl iddo beidio cael ei gynnwys ar gyfer gêm Yr Alban yn sgil genedigaeth ei blentyn.

Ac mae adroddiadau y bydd North ar gael ar gyfer y daith i Twickenham ar ôl gwella o anaf i'w ysgwydd.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.