Newyddion S4C

'Dim ffydd': Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

06/02/2024

'Dim ffydd': Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pedwar comisiynydd i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru er mwyn sicrhau “newid sylweddol” yn y sefydliad.

Wedi i adroddiad damniol gael ei gyhoeddi fis diwethaf yn nodi fod “diffygion difrifol” yn y gwasanaeth, daeth cyhoeddiad gan Hannah Blythyn AS ddydd Mawrth yn cadarnhau y bydd tîm o gomisiynwyr yn arwain y gwasanaeth er mwyn gweithredu argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, nad oedd ganddi hyder bod gan y Gwasanaeth y gallu mewnol sydd ei angen i oruchwylio ei adferiad ei hun, a bod y rheolaeth ar bob lefel yn gysylltiedig â'r methiannau a gafodd ei amlygu gan yr adolygiad.

Ychwanegodd gan mai Awdurdod Tân ac Achub De Cymru oedd y "broblem", nad oedd modd iddynt fod “yn rhan o'r datrysiad”.

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dileu holl swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a'u rhoi i bedwar Comisiynydd: 

- Y Farwnes Wilcox, cyn-Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd
- Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed
- Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Carl Jason Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd gan y comisiynwyr bwerau i ailstrwythuro a diwygio'r gwaith o reoli'r Gwasanaeth ac i feithrin diwylliant cadarnhaol. Byddant yn aros yn eu swydd hyd nes y bydd y gwaith wedi'i orffen, a byddant yn adrodd yn rheolaidd i'r Dirprwy Weinidog ar y cynnydd.

'Rhan o'r broblem'

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: "Mae'n anodd gweld sut y byddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Yn enwedig o ystyried bod y rhai sydd yn y swydd ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem, ac felly allan nhw ddim hefyd fod yn rhan o'r ateb.

"Oni bai bod camau'n cael eu cymryd nawr, mae risg y gallai'r methiannau hyn hefyd effeithio ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, a rhoi bywydau mewn perygl."

Roedd yr adroddiad annibynnol gan Fenella Morris CB ar y gwasanaeth yn feirniadol iawn o'r ymddygiadau a'r agweddau gwahaniaethol ar bob lefel yn y gwasanaeth, yn ogystal â methiannau rheolwyr i fynd i'r afael â nhw.

Cafodd yr adolygiad diwylliant annibynnol ei gomisiynu y llynedd yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.

Ar ôl clywed gan 450 aelod o staff a 60 o gyn-aelodau staff, daeth arweinydd yr adolygiad i'r casgliad bod "diffygion difrifol" yn y gwasanaeth.

Roedd hyn yn cynnwys “ymddygiad problematig” yn cael ei ddioddef, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, cam-drin domestig ac ymddygiad ymosodol corfforol y tu allan i'r gwaith; bwlio, ‘cellwair’ niweidiol, cam-drin cyffuriau ac alcohol, ac ymyrraeth amhriodol â gweithdrefnau.

Ychwanegodd yr adroddiad bod diffyg amrywiaeth o fewn y gwasanaeth, yn ogystal â phroblemau ym meysydd cyfathrebu, systemau, polisïau a gweithdrefnau gwael, a diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau recriwtio a dyrchafu.

'Risgiau ehangach'

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, fe ddywedodd Prif Swyddog y Gwasanaeth, Huw Jakeway fis Ionawr y byddai'n camu o'r neilltu, ac yn ymddeol wedi 12 mlynedd wrth y llyw, gan ddweud ei fod yn "amser am newid arweinyddiaeth".

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad i benodi comisiynwyr mewn datganiad i'r Senedd, dywedodd Ms Blythyn nad oedd bwriad y Prif Swyddog Tân i ymddeol yn ddigonol i "ysgogi'r newid mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant a fydd eu hangen ar raddfa eang i fynd i'r afael â'r problemau diwylliannol difrifol yn y gwasanaeth."

Roedd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi cynnig sefydlu Pwyllgor Gweithredu i Adolygu Diwylliant i oruchwylio'r gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad. Ond dywedodd y Dirprwy Weinidog nad oedd ganddi hyder y byddai hyn yn mynd i'r afael â'r gwendidau sylfaenol o ran llywodraethu, a bod angen ymyrraeth gryfach.

Ychwanegodd Hannah Blythyn AS: "Does gen i ddim ffydd yn y tebygolrwydd y bydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn adfer safon dderbyniol o reoli, nac ychwaith y bydd yn mynd i'r afael â'r risgiau ehangach i'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i ddiogelu diffoddwyr tân a’r cyhoedd.

Yn sgil hynny, dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu ag Awdurdod Tân ac Achub De Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.