Newyddion S4C

Cwrs newydd yn gam at 'wreiddio Gaeleg yr Alban' mewn ysgolion

06/02/2024
Yr Alban

Mae mwy na 120 o athrawon wedi cofrestru ar gyfer cwrs hyfforddi i wreiddio Gaeleg yr Alban yn ystafelloedd dosbarth y wlad.

Mae’r adnodd cyntaf o’i fath ar fin cael ei ddarparu gan y Brifysgol Agored, gyda chyllid yn cael ei gyflenwi gan Lywodraeth yr Alban.

Mae’r garfan bresennol o athrawon yn dod o bob rhan o’r Alban ac yn arbenigo mewn gwahanol bynciau.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Addysg LLywodraeth yr Alban, Jenny Gilruth, lansio'r cwrs yn swyddogol ddydd Mawrth yng Nghanolfan Adrodd Straeon yr Alban yng Nghaeredin.

Dywedodd Ms Gilruth fod y cwrs yn “gam pwysig” tuag at wreiddio a gwarchod yr iaith yn addysg yr Alban.

Dywedodd: “Mae’r rhaglen Albanaidd yn ychwanegiad i’w groesawu’n fawr at yr adnoddau sydd gennym yn eu lle i hyrwyddo Sgoteg a hefyd i’r ystod o gefnogaeth a ddarparwn i athrawon mewn ysgolion.

“Mae’r cwrs yn gam pwysig ymlaen tuag at wreiddio iaith a diwylliant Albanaidd yn ein hystafelloedd dosbarth ar draws pob lefel a maes pwnc – sy’n rhan allweddol o’n hymrwymiad i ddathlu a diogelu ieithoedd yr Alban.

“Mae wedi bod yn galonogol gweld nifer yr athrawon sydd eisoes yn cofrestru ar gyfer y cwrs ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith y cwrs yn y misoedd i ddod.”

Dywedodd Louise Glen, uwch swyddog addysg Ieithoedd yn Addysg yr Alban: “Mae’r cwrs hwn yn pwysleisio rôl drawsnewidiol iaith yr Alban yn ysgolion yr Alban, gan hyrwyddo ystafelloedd dosbarth amlieithog.”

Yn y cyfamser, dywedodd Dr Sylvia Warnecke, uwch ddarlithydd mewn ieithoedd yn y Brifysgol Agored, fod y cwrs yn diwallu “angen sylweddol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.