Y Brenin Charles wedi cael gwybod fod ganddo ganser
Y Brenin Charles wedi cael gwybod fod ganddo ganser
Cyhoeddodd Palas Buckingham nos Lun fod y Brenin Charles wedi cael gwybod fod ganddo ganser.
Cafodd y canser ei ddarganfod yn ystod ei driniaeth ddiweddar ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.
Dyw'r math penodol o ganser ddim wedi ei ddatgelu, ond yn ôl datganiad gan y palas, fe ddechreuodd y Brenin ar driniaethau rheolaidd ddydd Llun.
Ychwanegodd Palas Buckingham : "Mae'r Brenin yn dal i deimlo'n gadarnhaol iawn am ei driniaeth, ac yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'w ddyletswyddau cyhoeddus cyn gynted â bo modd."
Bydd yn gohirio ei ddyletswyddau cyhoeddus, ac mae disgwyl i aelodau eraill y Teulu Brenhinol gyflawni'r swyddogaethau hynny wrth i'r Brenin barhau â'i driniaeth.
Bu'r Brenin Charles sy'n 75 oed, mewn gwasanaeth eglwysig yn Sandringham ddydd Sul.
Cafodd driniaeth ar gyfer y prostad mewn ysbyty preifat yn Llundain dros wythnos yn ôl.
Mae'r Tywysog Harry wedi siarad â'i dad am ei ddiagnosis a bydd yn teithio i Lundain yn y dyddiau nesaf, yn ôl ffynhonnell sy'n adnabod y Tywysog.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad nos Lun, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: " Trist iawn yw clywed y newyddion bod Brenin Charles yn wynebu heriau iechyd pellach.
"Bydd fy meddyliau i, a phobl ledled Cymru, gydag ef a’i deulu heno. Anfonaf fy nymuniadau gorau ato, a dymunaf wellhad buan wrth iddo ddechrau'r driniaeth."
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Rishi Sunak wedi cyhoeddi datganiad hefyd yn dymuno "gwellhad llwyr a buan" i'r Brenin.