Newyddion S4C

Dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe wedi ffoi i Gymru rhag y rhyfel yn Wcráin

05/02/2024
Tetiana Martynova

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dynes 40 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Nhreforys, Abertawe ar 31 Ionawr.

Roedd Tetiana Martynova o Kharkiv yn Wcráin yn cerdded yn ymyl ffordd yr A4067 tua 18.20 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Roedd hi wedi cael lloches yng Nghymru ar ôl ffoi rhag yr ymladd yn Wcráin, gyda'i mab, wedi i Rwsia ymosod ar y wlad yn Chwefror 2022.

Mae'r rhai a roddodd loches iddi wedi ei disgrifio fel dynes weithgar, alluog ac aml-ieithog: “Cyrhaeddodd Tetiana (a oedd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Tania) Abertawe gyda'i mab 13 oed ym mis Gorffennaf 2022.

"Aeth ati i gael cymwysterau pellach ym maes cyfrifeg, gan weithio'n galed i gwmni lleol yn Abertawe, gan ddefnyddio ei hamrywiol sgiliau.

"Roedd hi'n rhan ganolog o'r gymuned Wcranaidd yn Abertawe, gan gymryd rhan ym mhob un o'u digwyddiadau cymdeithasol. 

"Mae ein meddyliau gyda'i mab yma yng Nghymru, a theulu Tania yn Wcráin. 

"Fydd breuddwyd Tania i ddychwelyd i Wcráin yr haf hwn, ddim yn digwydd bellach," meddai'r datganiad.  

Mae Heddlu'r De yn dal i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ar 31 Ionawr ar Heol Castell-nedd pan gafodd Tetiana Martynova ei tharo gan gerbyd Chevrolet Captiva, lliw gwyn.

2400036408 yw'r cyfeirnod i gysylltu â'r heddlu gydag unrhyw wybodaeth. 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.