Newyddion S4C

Penodi Dan Cherry yn Brif Weithredwr newydd Clwb Criced Morgannwg

05/02/2024
Dan Cherry

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi penodi'r cyn-gricedwr Dan Cherry fel eu Prif Weithredwr newydd.

Mae Cherry, sydd yn 43 oed, wedi gwneud 65 ymddangosiad i Forgannwg.

Yn ogystal, mae wedi bod yn bennaeth gweithrediadau’r clwb ers 2012 ac ar hyn o bryd mae’n Brif Weithredwr dros dro y clwb.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Mr Cherry ei fod yn edrych ymlaen at symud y clwb yn ei flaen.

“Mae’n anrhydedd enfawr cael fy ngwahodd i arwain Clwb Criced Morgannwg. 

"Mae Morgannwg wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers dros 20 mlynedd, ac rwy’n hyderus gyda thîm rhagorol o’m cwmpas, y gallwn wireddu potensial y clwb gwych hwn.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n bwrdd, ein haelodau a’n holl randdeiliaid wrth i ni geisio symud y clwb ymlaen mewn cyfnod cyffrous i griced.”

'Llwyddiant'

Mae Cadeirydd y clwb, Mark Rhydderch-Roberts yn edrych ymlaen at wylio Mr Cherry yn ategu at y gwaith mae wedi gwneud yn barod gyda'r clwb, meddai.

“Mae Dan wedi bod yn rhan hanfodol o Glwb Criced Morgannwg ers dros 20 mlynedd fel chwaraewr a gweinyddwr. 

"Mae ganddo gefnogaeth unfrydol y Bwrdd, ac mae ei sgiliau a’i allu yn cael eu cydnabod a’u parchu gan ein haelodau, noddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid, ynghyd â'n chwaraewyr, hyfforddwyr a staff.

“Mae penodiad Dan, a phenodiad Grant Bradburn fel ein Prif Hyfforddwr newydd, yn sail i Forgannwg hyderus sy’n canolbwyntio ar lwyddiant ar y cae ac oddi arno.”

Llun: Clwb Criced Sir Forgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.