Newyddion S4C

Amy Dowden yn diolch i'r Gwasanaeth Iechyd am ei gofal wedi triniaeth canser

05/02/2024
Amy Dowden

Roedd seren Strictly Come Dancing Amy Dowden yn ôl yn yr ysbyty ddydd Sul i dderbyn triniaeth.

Cafodd y seren ddawnsio o Gaerffili ddiagnosis canser y fron ym mis Mai.

Derbyniodd sgan MRI ddydd Sul, gan ddweud ei bod hi'n ddiolchgar iawn bod y gwasanaeth iechyd yn cynnig gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos ar gyfer triniaeth.

"Rwy'n meddwl ei bod yn wych bod y GIG yn cynnig apwyntiad saith diwrnod yr wythnos ar gyfer sganiau MRI," meddai ar Instagram.

Rhannodd lun ohoni ei hun yn yr ysbyty cyn derbyn y driniaeth.

Dywedodd er iddi dderbyn nifer o driniaethau'n ddiweddar, ei bod hi bob tro yn bryderus o flaen llaw.

"Does dim ots faint o weithiau rydych chi'n cael profion, dydych chi byth yn dod i arfer ag ef a dwi'n teimlo bod eich gorbryder ond yn gwaethygu. 

"Mae gen i wên ar fy wyneb ond yn wir dwi eisiau i hwn ddod i ben."

Llun: Amy Dowden / Instagram



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.