Newyddion S4C

Y Grammys: Pwy oedd y prif enillwyr eleni?

05/02/2024
Taylor Swift

Roedd nifer o enwau mawr ymhlith yr enillwyr yng ngwobrau'r Grammys nos Sul, gan gynnwys un gantores a lwyddodd i dorri record.

Enillodd Taylor Swift y wobr am albwm gorau'r flwyddyn - y pedwerydd tro iddi ennill y wobr.

Ei halbwm 'Midnights' cipiodd y wobr, sef y degfed albwm i'r gantores 34 oed ei ryddhau.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd mai'r wobr go iawn yw'r gwaith mae'n cael gwneud o ddydd i ddydd.

“Byddwn wrth fy modd yn dweud wrthych mai dyma foment orau fy mywyd, ond rwy’n teimlo'r un mor hapus pan fyddaf yn gorffen cân, neu pan dwi'n ymarfer gyda fy nawnswyr neu fy mand neu'n paratoi i fynd i Tokyo i berfformio.

“I mi, y wobr yw’r gwaith. Y cyfan rydw i eisiau ei wneud yw parhau i allu gwneud hyn. Rwyf wrth fy modd cymaint. Mae'n fy ngwneud i mor hapus."

Enillwyr eraill

Billie Eilish oedd enillydd cân y flwyddyn, gyda'r gân 'What was I made for?' a gafodd ei defnyddio yn y ffilm, Barbie.

Roedd hefyd gwobrau i Miley Cyrus, a enillodd record y flwyddyn am y gân 'Flowers'.

Enillydd artist newydd orau oedd Victoria Monét.

Cafodd Kylie Minogue ei hanrhydeddu â'r recordiad dawns bop gorau ar gyfer 'Padam Padam', a aeth yn feiral haf diwethaf.

Dyma oedd ei hail wobr Grammy.

Roedd gwobr hefyd i'r Beatles ar gyfer y fideo cerddoriaeth orau Grammy i brosiect a grëwyd ar gyfer y gân 'I'm Only Sleeping', oddi ar yr albwm 1966, 'Revolver'.

Roedd y fideo buddugol yn cynnwys 1,300 o baentiadau olew gan y gwneuthurwr ffilmiau ac animeiddiwr Prydeinig Em Cooper.

Yn ennill y wobr am ffilm gerddoriaeth orau oedd rhaglen ddogfen ar y diweddar David Bowie, o'r enw 'Moonage Daydream'. 

Llun: Valerie Macon / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.