Newyddion S4C

'Y gorau': Y byd rygbi yn rhoi teyrngedau i Barry John

05/02/2024

'Y gorau': Y byd rygbi yn rhoi teyrngedau i Barry John

Mae'r byd rygbi wedi rhoi teyrngedau i un o fawrion y gamp, Barry John, yn dilyn ei farwolaeth yn 79 oed.

Daeth y newyddion am ei farwolaeth ddydd Sul mewn datganiad gan ei deulu: “Bu farw Barry John yn heddychlon heddiw yn yr Ysbyty Athrofaol wedi ei amgylchynu gan ei wraig gariadus a phedwar o blant.

"Roedd yn dad-cu cariadus i’w 11 o wyrion ac yn frawd llawn cariad."

Yn ystod ei yrfa ddisglair fel rhan allweddol o dîm Cymru yn ystod oes aur y 1970au, fe enillodd 25 o gapiau dros ei wlad cyn ymddeol o’r gamp yn 1972, yn 27 oed yn unig.

Daeth yn enwog am ei ddawn unigryw wrth chwarae fel maswr dros ei wlad mewn partneriaeth gyda Syr Gareth Edwards ac ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971 pan gafodd e’r llysenw ‘y Brenin’.

Yn dilyn ei farwolaeth mae nifer o fewn byd rygbi wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd cyn-gapten Cymru, Sam Warburton bod John wedi cyfrannu'n fawr at rygbi yng Nghymru a thu hwnt.

“Yng Nghymru, ni allaf fynegi cymaint o barch sydd gan bobl at y grŵp 70au, ac yn benodol, pobl fel Barry John, a oedd yn dduw llwyr i rygbi Cymru,” meddai.

“Mae’r hyn a gyfrannodd at y gêm, hyd yn oed nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i fynd y tu hwnt i rygbi ar draws y byd a dyw e ddim wedi codi pêl ers 50 mlynedd.

“Mae’n dyst llwyr i faint o ddylanwad gafodd ar y gêm pan chwaraeodd, ond colled enfawr a newyddion trist iawn.”

'Y gorau'

Mae llywydd Undeb Rygbi Cymru, Terry Cobner, yn credu mai John yw'r maswr gorau erioed.

“Mae cael eich coroni’n ‘y Brenin’ yn Seland Newydd pan mae pob maswr yng ngwledydd hemisffer y de yn ceisio eich taclo chi yn dipyn o glod.

“I mi, mae’n rhaid iddo fod i fyny yna ymhlith y maswyr gorau sydd erioed wedi chwarae’r gêm, y gorau mae’n debyg.

"Ar ôl yr hyn a wnaeth i Gymru a'r Llewod yn 1971, roedd y rhai ohonom a'i dilynodd i'r ddau dîm bob amser yn teimlo bod gennym ni esgidiau enfawr i'w llenwi. Roedd yn chwedl o'n gêm ac fe fydd yn parhau i fod."

Barry John oedd un o arwyr cyn-chwaraewr Cymru Jonathan Davies.

Mewn neges ar X, dywedodd "Cwsg mewn hedd Barry, un arall o fy arwyr wedi mynd yn anffodus."

Ychwanegodd ei fod yn galw am deyrnged i Barry John cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr a fydd yn cael ei chwarae yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Dywedodd Y Llewod: “Yn wir un o'r goreuon.

“Rydym yn wirioneddol drist bod yr hynod Barry John wedi marw yn 79 oed.

“Ysbrydolodd Barry gymaint ac fe fydd yn cael ei gofio am byth am faint a roddodd i’r gamp.

“Mae ein meddyliau ni i gyd gyda'i deulu a'i ffrindiau.

“Gorffwysa mewn hedd.”

Dywedodd ei gyn-glwb, Rygbi Caerdydd ei fod yn eicon rygbi Cymru.

'Osgeiddig'

Mae'r newyddiadurwr rygbi, Simon Thomas wedi dweud mai uchafbwynt ei wythnos oedd mynd am beint gyda Barry John i sgwrsio am rygbi.

"Fy hoff ran o benwythnos Cymru bob amser oedd cyfarfod â Barry am beint ar nos Sul i sgwrsio am y gêm a’i golofn. Byddaf yn colli hynny.

"Cefais y fraint o dreulio cymaint o amser yng nghwmni Barry John yn ystod fy ngyrfa - eistedd wrth ei ymyl yn swyddfa'r wasg, gweithio gydag ef ar ei golofn a sgwrsio am y gêm rygbi yr oedd yn ei garu. RIP Barry. Byddaf yn gweld eich eisiau chi lawer."

Mae'r sylwedydd Huw Llywelyn Davies wedi ei ddisgrifio fel chwaraewr "osgeiddig."

“Oedd Barry mor osgeiddig, oedd e’n ymddangos bod gymaint o amser ‘da fe i wneud popeth ar y cae. 

"Mae’n anodd credu bod ni wedi colli un arall o’r mawrion."

Llun: Undeb Rygbi Cymru
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.