Newyddion S4C

Cynnig £20,000 o wobr wrth i’r chwilio barhau am Abdul Ezedi

04/02/2024
abdul ezedi.png

Mae £20,000 wedi cael ei gynnig fel gwobr am wybodaeth fydd yn arwain at ddal Abdul Ezedi sy’n cael ei amau o daflu hylif ar fam a'i phlant a'u gadael gydag anafiadau fydd yn "newid eu bywydau".

Mae’r heddlu o’r gred fod pobl sy’n gwybod lle mae ef heb ddod ymlaen eto.

Mae llu wedi dweud fod gan Ezedi, 35, o ardal Newcastle, "anafiadau sylweddol i ochr dde ei wyneb" a'i fod wedi cael ei weld mewn archfarchnad yng ngogledd Llundain nos Fercher.

Dywedodd Heddlu’r Met ei fod wedi ei weld diwethaf yn gadael gorsaf danddaearol Tower Hill ar 31 Ionawr am 21:33.

Daw hyn wedi'r ymosodiad ar ddynes 31 oed a oedd gyda'i phlant sydd yn dair ac wyth oed ddydd Mercher.

Mae’r ddynes, oedd yn adnabyddus i Ezedi, yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Y gred yw fod Ezedi wedi teithio i lawr o Newcastle ar ddiwrnod yr ymosodiad, ond nid yw ditectifs yn sicr o'r hyn a arweiniodd at y digwyddiad. 

Dywedodd Mr Cameron ei fod yn "drosedd ddifrifol" yn erbyn "dynes fregus".

Cafodd tri aelod arall o’r cyhoedd eu cludo i’r ysbyty hefyd ar ôl y digwyddiad wedi iddynt geisio rhoi cymorth i’r ddynes a'i phlant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.