Gweithredu diwydiannol yn parhau i amharu ar wasanaethau trenau yng Nghymru
Mae gwasanaethau trenau yng Nghymru wedi eu amharu ddydd Sul wrth i weithredu diwydiannol barhau oherwydd anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith.
Roedd cyfres o streiciau ar draws Lloegr hefyd wedi cael effaith ar wasanaethau yng Nghymru.
Fe fydd aelodau undeb y gyrwyr ASLEF ar wasanaeth Great Western Railway (GWR) rhwng Cymru a Lloegr yn streicio ddydd Llun fydd yn arwain at ddiddymu rhai gwasanaethau.
Dywedodd GWR y bydd gwasanaethau yn cael eu heffeithio ddydd Sul oherwydd gwaharddiad ar weithio goramser.
Mae’r gwaharddiad yn dod i ben ddydd Mawrth ac mae GWR yn annog teithwyr i deithio ar ddiwrnodau gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Ddydd Llun fe fydd amserlen ddiwygiedig yn gweithredu ar draws nifer o gwmnïau trenau gan gynnwys GWR.
“Ni fydd gwasanaeth ar rannau o rwydwaith GWR a bydd trenau sydd yn rhedeg dim ond yn gweithredu am gyfnod cyfyngedig yn ystod y dydd.
“Fe fydd gwasanaethau fydd yn rhedeg yn cychwyn am 07:00 ac yn dod i ben am tua 19:00.
“Ar ddiwrnodau yn dilyn y streic, gall gwasanaethau gael eu heffeithio gan nifer o gansladau ar fyr rybudd a newidiadau."
Fe ddechreuodd yr anghydfod 20 mis yn ôl ac nid oes trafodaethau i’w ddatrys wedi eu cynllunio ar hyn o bryd.
Fe wrthododd ASLEF gynnig ar gyflogau oedd yn seiliedig ar newid mewn ymarferion gwaith.
Dywedodd llywodraeth y DU a chyflogwyr fod y cynnig yn un “teg a rhesymol”.