Newyddion S4C

Y DU ddim yn barod am ryfel dwys yn ôl aelodau seneddol

04/02/2024
Milwyr

Nid yw’r DU yn barod am ryfel ‘dwys” oni bai bod ymroddiad i ddelio gyda phrinder mewn offer a phersonél medd aelodau seneddol yn San Steffan.

Dywedodd pwyllgor amddiffyn San Steffan fod personél yn gadael ynghynt nag y mae eraill yn cael eu recriwtio ac mae’n rhaid i’r ‘cynnig” iddyn nhw wella.

Ychwanegodd fod angen torri’r “cylch dieflig” er mwyn i’r DU fedru wynebu bygythiadau sy’n “gynyddol heriol”.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod cynyddu recriwtio a gwella cadw personél yn flaenoriaeth.

Bygythiad

Fis diwethaf dywedodd y Cadfridog Syr Patrick Sanders, pennaeth y fyddin fod angen i’r DU hyfforddi “byddin dinasyddion” gwirfoddol er mwyn bod yn barod i ymladd rhyfel ar y tir, gan rybuddio “na fyddai’n ddigon” i gynyddu niferoedd lu wrth gefn yn unig.

Fe dynnodd sylw at fygythiad Rwsia yn dilyn y rhyfel yn Wcráin a chamau y mae gwledydd eraill yn Ewrop yn eu cymryd i gyflenwi a moderneiddio eu lluoedd arfog.

Mae tua 73,000 yn rhengoedd proffesiynol byddin y DU ar hyn o bryd o’u cymharu â thua 100,000 yn 2010.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.