Ymosodiadau newydd gan UDA a’r DU ar dargedau Houthi yn Yemen
Mae’r Unol Daleithiau a’r DU wedi lansio streiciau ar y cyd ar 36 o dargedau Houthi ar draws 13 lleoliad yn Yemen.
Dywedodd yr Americanwyr eu bod wedi dinistrio chwe thaflegryn yr oedd yr Houthis yn paratoi i'w defnyddio yn erbyn llongau.
Daw ar ôl i’r Unol Daleithiau lansio streiciau ar 85 o dargedau yn Syria ac Irac ddydd Gwener mewn ymateb i ymosodiad marwol gan drôn ar un o ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau.
Dechreuodd y gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen, sy'n cael eu cefnogi gan Iran, dargedu llongau masnachol yn y Môr Coch ym mis Tachwedd.
Y nod medden nhw oedd atal rhyfel Israel ar Hamas. Ond hyd yma nid oes gan lawer o’r llongau yr ymosodwyd arnynt gysylltiad ag Israel.
Inline Tweet: https://twitter.com/CENTCOM/status/1753982254743769130?s=20
Mae’r ymosodiadau wedi amharu ar y gadwyn cyflenwi nwyddau fyd-eang.
Mae cwmnïau cludo wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Môr Coch, sydd fel arfer yn cario bron i 15% o fasnach fyd-eang, ac wedi defnyddio llwybr llawer hirach o amgylch de Affrica.
Mae hynny’n bygwth gyrru chwyddiant yn uwch eto.
Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, Grant Shapps bod ymosodiadau’r Houthis ar longau yn y Môr Coch yn “anghyfreithlon ac annerbyniol”.
Llun: Hawlfraint yr Is-Ringyll Samantha Drummee/Y Weinyddiaeth Amddiffyn/Y Goron.