Newyddion S4C

Dynes yn dweud ei bod hi bron a marw wrth wasgaru llwch ei thad ar fynydd Tryfan

04/02/2024
SOS Extreme Rescue

Mae dynes wedi dweud ei bod hi bron a marw wrth wasgaru llwch ei thad ar fynydd Tryfan yn Eryri.

Dywedodd Kitty Harrison wrth raglen SOS: Extreme Rescues ei bod hi wedi dringo’r mynydd i wasgaru llwch ei thad a oedd yn hoff o fynd a'r teulu ar wyliau i ogledd Cymru pan lithrodd i lawr.

Dywedodd y ddynes 32 oed o orllewin canolbarth Lloegr ei bod hi wedi aros ar ymyl dibyn 300 troedfedd am dair awr cyn cael ei hachub gan “arwyr” Dîm Achub Mynydd Ogwen ym mis Mehefin 2022.

"Llithrodd fy nhroed ar y graean rhydd a wnes i lanio ar silff fechan," meddai Kitty Harrison sydd yn nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant wrth y rhaglen.

"Pe bawn i ddim wedi mynd i lawr yr ochr yna, byddwn i wedi mynd yn syth i lawr y mynydd a dwi ddim yn siŵr y byddwn i yma heddiw.

“Fe wnes i drio dringo yn ôl i fyny ond roedd hi mor wlyb a llithrig, roeddwn i'n rhy ofnus y byddwn i'n syrthio.

"Roeddwn i yn y fath stad a fyddwn i ddim wedi dod oddi yno fy hun.

"Maen nhw'n haeddu cymaint o glod a chanmoliaeth, maen nhw'n arwyr."

‘Poeni’

Fe dreuliodd y tîm achub rhai oriau yn ceisio dod o hyd i’r ffordd orau i’w chludo oddi ar y mynydd a dywedodd ei bod hi wedi teimlo “anobaith” ar brydiau.

“Roedden i’n meddwl fy mod i’n mynd i syrthio i ffwrdd cyn i unrhyw un ddod o hyd i fi,” meddai.

Dywedodd Robin Woodward o Dîm Achub Mynydd Ogwen ei bod hi “wedi cynhyrfu ac roedd o’n lle eithaf brawychus iddi fod ynddo”.

“Roedd hi wir yn poeni am ei bywyd. Fe fyddai pethau wedi mynd o ddrwg i waeth pe bai hi wedi llithro ymhellach i lawr."

Mae SOS: Extreme Rescues ar gael ar BBC iPlayer ac ar ddydd Llun am 19:00 GMT ar BBC One Wales.

Llun gan Darlun.tv/BBC Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.