Newyddion S4C

Cynlluniau newydd i wneud dringo ar gofebion rhyfel yn drosedd

04/02/2024
James Cleverly

Fe allai protestwyr sy’n dringo ar gofebion rhyfel wynebu tri mis yn y carchar a dirwy o £1,000 o dan gynlluniau gan yr Ysgrifennydd Cartref.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd James Cleverly fod dringo cofebion yn “sarhad” ac “na all barhau”.

Fe wnaeth y gweinidog addo ymchwilio i roi pwerau newydd i’r heddlu amddiffyn safleoedd coffa y llynedd.

Daw hynny ar ôl i brotestwyr o blaid atal y brwydro ym Mhalestina ddringo ar gofed rhyfel yn Hyde Park Corner yn Llundain yn dilyn protest y tu allan i Senedd San Steffan ar Dachwedd 15.

Dywedodd Heddlu Llundain ar y pryd y byddai wedi bod yn anghyfreithlon arestio protestwyr am dorri’r gofeb.

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod ganddyn nhw gynlluniau newydd i wneud gweithgareddau o’r fath yn droseddau penodol.

Dywedodd llefarydd y byddai’r mesur yn “atal protestwyr rhag amharchu’r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau dros ein gwlad”.

‘Cadw trefn’

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i 10,000 o gefnogwyr o blaid Palestina orymdeithio yng nghanol Llundain ddydd Sadwrn yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Dywedodd Mr Cleverly, a oedd yn swyddog yn y Fyddin Diriogaethol: “Mae protestiadau diweddar wedi cynnwys lleiafrif bach sy’n ymroddedig i achosi difrod a sarhau’r rhai a dalodd y pris eithaf am eu rhyddid i brotestio.

“Mae protestio’n heddychlon yn hawl sylfaenol, ond mae dringo ar ein cofebion rhyfel yn sarhad ar yr henebion hyn ac ni all barhau.

“Dyna pam rydw i’n rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar yr heddlu i sicrhau bod ganddyn nhw’r offer i gadw trefn a heddwch ar ein strydoedd.”

Fe fydd y cynnig yn rhan o gynllun ehangach, a fydd yn cael ei ddadorchuddio yn ystod yr wythnos sydd i ddod, gyda’r nod o fynd i’r afael ag anhrefn mewn protestiadau, meddai’r Swyddfa Gartref.

Llun: James Cleverly

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.