Tri o bobl wedi eu hanafu ar ôl cael eu trywanu ym Mharis
03/02/2024
Mae tri o bobl wedi eu hanafu ar ôl cael eu trywanu yng ngorsaf drenau Gare de Lyon.
Cafodd dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad a dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw reswm yn amlwg am yr ymosodiad.
Ni chafodd y dioddefwyr anafiadau oedd yn peryglu eu bywydau.
Dyma’r diweddaraf o ymosodiadau tebyg ym mhrifddinas Ffrainc. Ym mis Rhagfyr y llynedd cafodd tri o dwristiaid eu trywanu ger Tŵr Eiffel a bu farw un ohonynt.
Yn Ionawr y llynedd, cafodd chwech o bobl eu trywanu yn y Gare du Nord.
Llun: Wochit