Gwirfoddolwyr yn gobeithio datgelu cerflun anferth o Gymru
Bydd gwirfoddolwyr yn gobeithio datgelu cerflun anferth o Gymru ger cronfa ddŵr Llyn Alaw ar Ynys Môn dros y penwythnos.
Mae’r map 50 metr sgwar sydd wedi ei orchuddio gan lwyni ac eithin wedi ddisgrifio fel celfyddyd tir, ond does dim modd ei weld yn iawn ers dros ddegawd.
Cafodd ei greu gan Paul Davies yn 1987 - sylfaenydd grŵp o artistiaid o'r enw Beca.
Y nod yw tacluso’r map a'i adfer er mwyn i bobol allu ei fwynhau. Prifysgol Bangor, Cyngor Ynys Môn a Dŵr Cymru sy'n arwain ar y gwaith o glirio'r safle.
Mae Dr Sarah Pogoda o Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau Prifysgol Bangor yn cynnal astudiaeth o waith Paul Davies.
“Sefydlodd Paul y comisiwn gan Dŵr Cymru ym 1987 yng nghyd-destun “Blwyddyn yr Amgylchedd” y Comisiwn Ewropeaidd ar y pryd,” meddai.
“Ymunodd Paul, gyda myfyrwyr Celf a Dylunio Coleg Llandrillo Menai (Coleg Technegol Gwynedd gynt) ar y pryd a gwirfoddolwyr lleol dros gyfnod o fisoedd i adeiladu’r cerflun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn unig.
“Mae’n un o’r gweithiau mawr cyntaf o’r hyn a elwir yn ‘gelfyddyd tir’ yng Nghymru a’r DU.”
‘Hanesyddol’
Dywedodd Alwyn Roberts o gwmni Dŵr Cymru eu bod nhw’n “falch iawn o chwarae ein rhan i ddod â’r darn hwn o dreftadaeth ddiwylliannol yn ôl yn fyw”.
“Gobeithiwn trwy ein hymdrechion cydweithredol y byddwn yn dod â’r cerflun yn ôl i’w fwynhau gan ymwelwyr â’r safle, gan ei fod yn ddarn pwysig o dreftadaeth leol.”
Mae Owen Davies (Warden Cymunedol AHNE Cyngor Sir Ynys Môn) wedi bod yn arwain y gwaith o glirio’r gordyfiant o amgylch y cerflun a threfnu’r digwyddiadau gwirfoddoli ar gyfer Chwefror eleni.
Eglura Owen: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i adfywio’r gwaith celf hanesyddol hwn ger Llyn Alaw gan ddefnyddio offer llaw fel tocwyr gardd a llifiau bwa.
“Bydd hwn yn waith heriol o ystyried cyflwr presennol y cerflun, ond hefyd sy’n teimlo’n fuddiol dros ben, felly byddwn yn ddiolchgar am bob cymorth a bôn braich i’w adfer.”