Newyddion S4C

Y cyflwynydd teledu Jonnie Irwin wedi marw yn 50 oed

03/02/2024
Jonnie Irwin

Mae’r cyflwynydd teledu Jonnie Irwin wedi marw yn 50 oed.

Roedd yn adnabyddus am gyflwyno rhaglenni eiddo Escape to the Country ac A Place in the Sun.

Cafodd ddiagnosis o ganser terfynol yn 2020 ar ôl i’r clefyd ledu o’i ysgyfaint i’w ymennydd.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei deulu: “Fe wnaeth Jonnie gyffwrdd bywydau gymaint gyda’i garedigrwydd, ei gynhesrwydd a’i ysbryd heintus."

Yn wreiddiol cafodd Irwin chwe mis i fyw ond fe frwydrodd gan gyhoeddi fod ganddo’r clefyd ar ôl dwy flynedd.

Ar y pryd dywedodd ei fod yn gobeithio byddai ei ddiagnosis yn ysbrydoli eraill i “wneud y gorau o bob dydd”.

Mae’n gadael ei wraig Jessica a’i feibion Rex a gefeilliaid Rafa a Cormac.

Mewn teyrnged iddo ddydd Sadwrn dywedodd ei wraig: “Mae’r bechgyn a finnau dal dy angen di. Nos da fy ffefryn. Diolch am bopeth. Byddai bob amser yn dy garu di.

“Mae’r diwrnod anoddaf wedi cyrraedd, diwrnod roeddwn yn gweddïo byddai ddim yn dod.

"D’oedd e ddim yn deg a doeddet ti ddim yn haeddu dim o hyn.

“Rhoddes di gymaint o amser i eraill ac wedi cyffwrdd pawb oeddet ti’n cwrdd. Dwi ddim wedi profi unrhyw beth fel yr effaith gefais di ar bobl."

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.