Yr Unol Daleithiau’n ymosod ar dargedau yn Irac a Syria
Mae Unol Daleithiau America wedi ymosod ar 85 o dargedau yn Syria ac Irac mewn ymateb i ymosodiad drôn ar 28 Ionawr a laddodd dri milwr.
Dywedodd yr UDA bod eu lluoedd wedi cynnal ymosodiadau awyr yn erbyn llu amddiffyn chwyldroadol Irac a grwpiau milisia.
Dywedodd Arlywydd Joe Biden nad oedd yr Unol Daleithiau yn chwilio am anghydfod yn y Dwyrain Canol na unrhyw le arall “ond os ydych yn niweidio Americanwyr, byddwn yn ymateb”.
Fe laddwyd tri o filwyr yr UDA ac anafwyd mwy na 40 mewn ymosodiad gan ddrôn ar ganolfan filwrol.
Fe wnaeth y Tŷ Gwyn feio Iran gan addo “ymateb o ganlyniad dwys”.
Mae Iran wedi gwadu unrhyw gysylltiad gyda’r ymosodiad gan ddweud fod yr honiadau yn “ddi-sail" ac wedi cyhuddo'r Unol Daleithiau o "ymddygiad ymosodol".
Dywedodd llywodraeth Irac fod 16 o bobl wedi eu lladd yn yr ymosodiadau.