Newyddion S4C

Mam Josh Roberts yn brwydro i ailagor ymchwiliad i farwolaeth ei mab

Y Byd ar Bedwar 05/02/2024

Mam Josh Roberts yn brwydro i ailagor ymchwiliad i farwolaeth ei mab

Mae mam dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon y llynedd yn brwydro i gael ailagor ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth ei mab. 

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Hyd yma, does neb wedi ei gyhuddo na'i erlyn mewn cysylltiad â marwolaeth Josh, ac ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gau’r achos. 

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd ei fam, Melanie Tookey: “‘Da ni yn hollol siomedig, mae o’n deimlad ofnadwy. ‘Da ni ddim yn convinced ddyla fod yr investigation drosodd."

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darparu esboniad i Melanie am yr hyn y maen nhw’n credu wnaeth ddigwydd y noson honno. 

I osgoi amharu ar unrhyw ddatblygiadau cyfreithiol yn y dyfodol does dim modd i ni ddatgelu manylion esboniad yr heddlu ond mae Melanie yn dweud nad yw’n rhoi darlun clir iddi o beth yn union sydd wedi digwydd i’w mab.

“Ydyn nhw 'di herio'r bobol nath y nhw arestio ddigon? Ydyn nhw di cymryd forensic checks gan y ceir i gyd? Ydyn nhw di neud drugs test yn ychwanegol i breathalyser?” 

Image
Cofio Josh Roberts
Daeth cannoedd i roi teyrnged i Josh yn ei angladd

Yn dilyn penderfyniad Heddlu’r Gogledd i gau’r achos, fe gafodd Melanie wybod bod ganddi dri mis i ffurfio cais i ofyn am adolygiad o’r achos.

“Dydy Josh ddim yma i sefyll i fyny am ei hun, a dydan ni ddim yn mynd i’w adael o lawr. Da ni’n mynd i ‘neud be fedrwn ni i gael cyfiawnder,” meddai. 

Yn ystod ymchwiliad yr heddlu fe gafodd dyn 19 oed, ac yn ddiweddarach dyn 32 oed, eu harestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ond ni chafodd neb eu cyhuddo yn swyddogol. 

Yn rhwystredig gyda’r atebion maen nhw wedi eu cael gan yr heddlu hyd yma, mae Melanie a chwaer Josh, Abi, wedi troi at gynnal eu gwaith ymchwil eu hunain.

“Yn ystod y cyfnod 'ma lle da ni fod wedi galaru ryda ni wedi bod yn trio dod o hyd i atebion sy’n esbonio beth sydd wedi digwydd i Josh," meddai Melanie.

"A dylsen ni ddim wedi gorfod gwneud hynny.”

Image
Teulu Josh Roberts
Mae Abi a Melanie wedi trysori rhai o’u hatgofion gyda Josh

Roedd Josh yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn un o aelodau y Gymdeithas Gymraeg yn y brifddinas sydd wedi bod yn gefnogol iawn. 

Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Everton ac yn aelod ffyddlon o’r Wal Goch. Roedd hefyd yn bêl-droediwr oedd wedi chwarae i dîmoedd Bontnewydd, Caernarfon a’i brifysgol. 

Trwy gydol yr ymchwiliad fe gafodd aelodau o deulu Josh gefnogaeth gan swyddogion arbenigol. Mae Melanie hefyd yn hynod o ddiolchgar i’r gymuned yng Nghaernarfon am eu cymorth, ac i elusen 2Wish. Ond mae hi’n dweud bod y misoedd diwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn. 

“Dwi’n exhausted, a s'gyna fi ddim y nerth ond mae rhaid i fi gadw nerth fi i neud hyn, ond weithiau dwi just isio aros yn fy ngwely a chuddiad o bob peth, ond bysa Josh ddim isio hynna," meddai.

Adolygu’r achos

Rhwng Ionawr a Hydref y llynedd, fe gafodd mwy na 23 o bobl eu lladd ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. 

Ac yn ôl y cyn heddwas, Carwyn Evans sy’n darlithio ym Mhrifysgol De Cymru, o’i brofiad ef dyw gwrthdrawiadau sydd yn cynnwys cerddwyr “ddim yn arwain at erlyniad bob tro".

“Mae llawer o ddamweiniau fel hyn yn cymryd lle yn ganol nos, lle ma' dim llawer o dystion o amgylch, dim CCTV falle i gal, a ma’n gallu bod yn dipyn bach o job caled i weithio mas be sydd wedi digwydd," meddai.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cais Melanie am adolygiad ac yn yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth hi gyfarfod gyda’r Uwcharolygydd sydd wedi cael ei benodi i wneud y gwaith. 

Mae’r broses hon yn un sydd fel arfer yn cymryd rhyw fis. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru, o ganlyniad i gais Melanie am adolygiad o’r ymchwiliad gwreiddiol, a’r ffaith bod y cwest heb ddod i ben eto, byddai’n amhriodol iddyn nhw wneud sylw rhag ofn y bydd yna gyhuddiad troseddol ac achos llys yn y dyfodol.

Bydd Melanie a chwaer Josh, Abi, nawr yn aros i glywed pa dystiolaeth bydd yn dod gerbron y cwest.

“‘Da ni rili angen yr atebion er mwyn i ni fedru prosesu a cario 'mlaen hefo bywydau ni. Dwi ddim yn mynd i stopio a di’r teulu ddim yn mynd i adael o fynd chwaith,” meddai Melanie. 

Y Byd ar Bedwar: Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C/Clic a BBC iPlayer

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.