Newyddion S4C

Chwaer Josh Roberts wedi clywed am y gwrthdrawiad lle bu farw ei brawd wrth ateb galwadau 999

Y Byd ar Bedwar 04/02/2024

Chwaer Josh Roberts wedi clywed am y gwrthdrawiad lle bu farw ei brawd wrth ateb galwadau 999

“Nath fy nghalon i suddo.” Dyma sut mae Abi Lloyd Roberts yn cofio teimlo pan ddywedodd cyd-weithiwr iddi yn y gwasanaeth ambiwlans, bod gwrthdrawiad difrifol wedi bod ar gyrion Caernarfon. 

Y cyd-weithiwr yna a gymerodd yr alwad ar y noson fu farw ei brawd.

Ar 2 Mehefin 2023 bu farw brawd Abi, Joshua Lloyd Roberts, 19, mewn gwrthdrawiad ar yr A4085 Ffordd Waunfawr ger Caernarfon. 

Ar y noson honno, roedd Abi, 25, yn gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans ac yn ateb galwadau 999.  

Ychydig wedi 23:00, fe gafodd cyd-weithiwr Abi alwad fod gwrthdrawiad wedi digwydd ar y ffordd roedd ei brawd Josh yn bwriadu cerdded adref arni. 

Roedd yr alwad yn un difrifol, ac fe wnaeth Abi ofyn “be sydd 'di digwydd? Ac nath y nhw ddweud ‘oh, he’s been hit by a car’. Felly nes i ofyn, ‘pwy?"

Fe gafodd Abi gadarnhad gan ei chydweithiwr fod dyn rhwng 19 a 20 oed wedi cael ei daro a’i ladd ar y ffordd.

“Nath fy nghalon i suddo. Achos tua dwy awr cynt oedd Josh di gyrru text yn dweud, ‘dwi’n cerddad adra’ [ar yr A4085].”

Fe wnaeth Abi adael yr ystafell a cheisio ffonio ei brawd Josh dro ar ôl tro, ond doedd dim ateb. 

‘O’n i’n gwybod’

Er nad oedd Abi yn gwybod yn sicr ar y pryd mai Josh oedd yr unigolyn oedd wedi marw, roedd ganddi deimlad cryf bod rhywbeth o’i le. 

Aeth Abi adref o’i gwaith yn gynnar am ei bod hi’n poeni ofnadwy, ac yn fuan wedi iddi gyrraedd ei chartref yng Nghaernarfon, daeth cadarnhad gan heddweision fod Josh wedi marw. 

“Dwi erioed 'di sgrechian gymaint yn bywyd fi. Achos oni’n gwybod na Josh oedd o, o'n i jyst angen rhywun cadarnhau na fo oedd o.

“Ond o'n i’n gwybod o’r eiliad nath yr alwad ddod mewn, a dwi'm yn gwybod sut, ond o'n i’n gwybod,” meddai Abi. 

Image
Abi a Josh

Roedd Josh yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Everton a Chymru, ac yn aelod ffyddlon o’r Wal Goch.

“Oedd o wrth ei fodd efo Everton. Football was his religion fel ‘da ni ddeud,” meddai Abi.

'Rili methu fo’

Roedd Josh ac Abi yn ffrindiau mawr ac mae ei farwolaeth wedi bod yn ergyd anferthol i bawb oedd yn ei adnabod.

“Dwi’n deffro bob bora ac yn gobeithio bod o ddim yn wir. Dwi’n sbïo ar ffôn fi bob bora, a ma’i lun o yna a dwi’n cofio. Ma’n afiach. Dwi’n rili methu fo.

“Fydd o’n 19 am byth.” 

Image
Cofio am Josh

Ar ôl marwolaeth Josh fe gafodd Abi gynnig ychydig o gymorth seicolegol gan ei gweithle, ond wyth mis ers colli ei brawd, mae hi wedi penderfynu gadael y gwasanaeth ambiwlans a dechrau swydd newydd gyda chwmni arall. 

“Dwi’n teimlo bo’ fi’n sdyc mewn amser, dwi'm ‘di mynd yn nôl i fy ngwaith, mae gen i PTSD, dwi’n ofn bod rhywbeth fel ‘na yn mynd i ddigwydd eto.” 

Roedd Abi yn siarad mewn rhaglen sy’n dilyn camau nesaf ei mam a hithau wrth iddynt geisio dod o hyd i atebion am yr hyn ddigwyddodd i Josh ar Fehefin 2, 2023. 

Y Byd ar Bedwar: Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C/Clic a BBC iPlayer

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.