Teyrnged i ‘gawr addfwyn’ fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4
Mae teulu “cawr addfwyn” fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 wedi talu teyrnged iddo.
Bu Paul Slater o Gasnewydd, oedd yn gyn-filwr yn y Llynges Frenhinol ac yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), farw yn y gwrthdrawiad ddydd Llun 29 Ionawr.
Cafodd dyn o Gaerdydd, 34, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach wrth i ymholiadau barhau.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng tri char BMW X4, Vauxhall Agila a Volkswagen Polo tua 21.00.
Roedd Paul Slater, 52 oed, oedd yn gyrru'r Vauxhall, wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd ei deulu: “Roedd Paul Slater yn gawr addfwyn ac yn cael ei addoli gan bawb, ac yn hoff iawn o Greggs. Roedd yn dad ymroddedig, ac yn ŵr a mab cariadus.
“Wedi ei eni yn Swydd Efrog, fe ddaeth i Gymru ar ôl cwympo mewn cariad ag Ann ei wraig gariadus o Gaerdydd.
“Mae Paul yn gadael ei ddwy ferch brydferth Victoria-Rose ac Alexandra yr oedd yn eu caru’n annwyl . Nhw oedd ei fyd cyfan.
“Anaml y byddwch chi erioed yn cwrdd â dyn mwy addysgedig a chyfiawn. Roedd yn hael ac yn helpu unrhyw enaid mewn angen.
“Gwasanaethodd Paul ei wlad yn y Llynges Frenhinol am fwy na 22 mlynedd ar draws y byd cyn dychwelyd adref a pharhau i helpu rhai mewn angen yn y GIG.
“Rydym fel teulu yn dymuno rhannu ein gwerthfawrogiad o’r holl wasanaethau brys a geisiodd helpu Paul, felly rydym yn gwybod nad oedd ar ei ben ei hun ac mae llawer o ddiolch i’r rhai sy’n parhau i helpu.
“Hoffem ofyn a oes gan unrhyw un wybodaeth neu luniau camera dashfwrdd i gysylltu â Heddlu Gwent.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu rhif cofnod 2400034015.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.